Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Job 1-2

Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a’i enw Job; ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni. Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair o ferched. A’i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion; ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain. A’i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt. A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant Dduw yn eu calonnau. Felly y gwnâi Job yr holl ddyddiau hynny.

A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi. A dywedodd yr Arglwydd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? Yna Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw? 10 Oni chaeaist o’i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a’i dda ef a gynyddodd ar y ddaear. 11 Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo, ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb. 12 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Wele, yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd.

13 A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a’i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf. 14 A daeth cennad at Job, ac a ddywedodd, Yr ychen oedd yn aredig, a’r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt; 15 A’r Sabeaid a ruthrasant, ac a’u dygasant ymaith; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf, a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti. 16 Tra yr oedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd, ac a losgodd y defaid, a’r gweision, ac a’u hysodd hwynt; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti. 17 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Y Caldeaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant i’r camelod, ac a’u dygasant ymaith, ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf; a minnau fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti. 18 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Dy feibion a’th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf: 19 Ac wele, gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch, ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llanciau, a buant feirw; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti. 20 Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd; 21 Ac a ddywedodd, Noeth y deuthum o groth fy mam, a noeth y dychwelaf yno. Yr Arglwydd a roddodd, ar Arglwydd a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd. 22 Yn hyn i gyd ni phechodd Job, ac ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn Duw.

A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt i sefyll gerbron yr Arglwydd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, i’w ddifa ef heb achos? A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Croen am groen, a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes. Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd, ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Wele ef yn dy law di; eto cadw ei hoedl ef.

Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun. Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw.

Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltithia Dduw, a bydd farw. 10 Ond efe a ddywedodd wrthi, Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion: a dderbyniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Yn hyn i gyd ni phechodd Job â’i wefusau.

11 A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro. 12 A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant; rhwygasant hefyd bob un ei fantell, a thaenasant lwch ar eu pennau tua’r nefoedd. 13 Felly hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef: canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.

Actau 7:22-43

22 A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. 23 A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. 24 A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. 25 Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant. 26 A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? 27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? 28 A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? 29 A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion. 30 Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth. 31 A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, 32 Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried. 33 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd. 34 Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i’w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a’th anfonaf di i’r Aifft. 35 Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth. 36 Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y môr coch, ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd.

37 Hwn yw’r Moses a ddywedodd i feibion Israel, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch. 38 Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch, gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac â’n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i’w rhoddi i ni. 39 Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i’r Aifft, 40 Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i’n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo. 41 A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i’r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun. 42 Yna y trodd Duw, ac a’u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu’r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel? 43 A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli: minnau a’ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.