Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Job 11-13

11 A soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus? Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a’th waradwyddo? Canys dywedaist, Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di. Ond, O na lefarai Duw, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn, A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i Dduw ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd. A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd? Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr. 10 Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef? 11 Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny? 12 Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt. 13 Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef; 14 Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai: 15 Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni: 16 Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef. 17 Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd. 18 Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch. 19 Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a’th ddychryno, a llawer a ymbiliant â’th wyneb. 20 Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.

12 A Job a atebodd ac a ddywedodd, Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb. Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn? Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar Dduw, ac efe a’i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith. Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â’i draed. Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi Duw, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo. Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid, a hwy a’th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti. Neu dywed wrth y ddaear, a hi a’th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti. Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn? 10 Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn. 11 Onid y glust a farna ymadroddion? a’r genau a archwaetha ei fwyd? 12 Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau. 13 Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo. 14 Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno. 15 Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a’u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear. 16 Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a’r twyllodrus. 17 Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr. 18 Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt. 19 Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith; ac a blyga y rhai cedyrn. 20 Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodd y ffyddlon; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen. 21 Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion. 22 Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni. 23 Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac yn eu distrywio hwynt: efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd, ac efe a’u dwg hwynt i gyfyngdra. 24 Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd. 25 Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.

13 Wele, fy llygad a welodd hyn oll; fy nghlust a’i clywodd ac a’i deallodd. Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau. Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw. Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll. O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb. Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau. A ddywedwch chwi anwiredd dros Dduw? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef? A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros Dduw? Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn? 10 Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel. 11 Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch? 12 Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a’ch cyrff i gyrff o glai. 13 Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau; a deued arnaf yr hyn a ddelo. 14 Paham y cymeraf fy nghnawd â’m dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw? 15 Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef. 16 Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef. 17 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â’ch clustiau. 18 Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y’m cyfiawnheir. 19 Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf. 20 Ond dau beth na wna i mi: yna nid ymguddiaf rhagot. 21 Pellha dy law oddi arnaf: ac na ddychryned dy ddychryn fi. 22 Yna galw, a myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac ateb di fi. 23 Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof? pâr i mi wybod fy nghamwedd a’m pechod. 24 Paham y cuddi dy wyneb, ac y cymeri fi yn elyn i ti? 25 A ddrylli di ddeilen ysgydwedig? a ymlidi di soflyn sych? 26 Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid. 27 Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylied ar fy holl lwybrau; ac yn nodi gwadnau fy nhraed. 28 Ac efe, megis pydrni, a heneiddia, fel dilledyn yr hwn a ysa gwyfyn.

Actau 9:1-21

A Saul eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr archoffeiriad, Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y synagogau; fel os câi efe neb o’r ffordd hon, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem. Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef. Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Yntau a ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. Yntau gan grynu, ac â braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. A’r gwŷr oedd yn cyd‐deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais, ac heb weled neb. A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai efe neb: eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law, ac a’i dygasant ef i mewn i Ddamascus. Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.

10 Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus, a’i enw Ananeias: a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananeias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd. 11 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Union, a chais yn nhŷ Jwdas un a’i enw Saul, o Darsus: canys, wele, y mae yn gweddïo; 12 Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananeias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith. 13 Yna yr atebodd Ananeias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint di yn Jerwsalem. 14 Ac yma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr archoffeiriaid, i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di. 15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dos ymaith: canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel. 16 Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i. 17 Ac Ananeias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd i, (Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost,) fel y gwelych drachefn, ac y’th lanwer â’r Ysbryd Glân. 18 Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. 19 Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau. 20 Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw. 21 A phawb a’r a’i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.