Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 81

I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.

81 Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob. Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl. Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl. Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob. Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn. Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau. Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela. Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf; Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr. 10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf. 11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai. 12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain. 13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd! 14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr. 15 Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd. 16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.

Salmau 88

Salm neu Gân meibion Cora, i’r Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad.

88 O Arglwydd Dduw fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos. Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain. Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod. Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth. Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law. Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau. Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela. Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd‐dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan. Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat Arglwydd, beunydd; estynnais fy nwylo atat. 10 Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela. 11 A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw? 12 A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof? 13 Ond myfi a lefais arnat, Arglwydd; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen. 14 Paham, Arglwydd, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? 15 Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso. 16 Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith. 17 Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant. 18 Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.

Salmau 92-93

Salm neu Gân ar y dydd Saboth.

92 Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i’th enw di, y Goruchaf: A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau; Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol. Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf. Mor fawredig, O Arglwydd, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau. Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn. Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd. Tithau, Arglwydd, wyt ddyrchafedig yn dragywydd. Canys wele, dy elynion, O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd. 10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir. 11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn. 12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus. 13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw. 14 Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant: 15 I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.

93 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo. Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb. Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau. Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr. Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.