Chronological
1 Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratëwr: 2 A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant. 3 A’r gŵr hwn a âi i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i Arglwydd y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r Arglwydd yno.
4 Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau. 5 Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi; 6 A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r Arglwydd gau ei bru hi. 7 Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr Arglwydd, hi a’i cythruddai hi felly; fel yr wylai, ac na fwytâi. 8 Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion?
9 Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr Arglwydd.) 10 Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr Arglwydd, a chan wylo hi a wylodd. 11 Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef. 12 A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr Arglwydd, i Eli ddal sylw ar ei genau hi. 13 A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent; a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw. 14 Ac Eli a ddywedodd wrthi hi, Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt. 15 A Hanna a atebodd, ac a ddywedodd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr Arglwydd. 16 Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a’m blinder, y lleferais hyd yn hyn. 17 Yna yr atebodd Eli, ac a ddywedodd, Dos mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef. 18 A hi a ddywedodd, Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i’w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.
19 A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr Arglwydd; ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i’w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a’r Arglwydd a’i cofiodd hi. 20 A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef, eb hi. 21 A’r gŵr Elcana a aeth i fyny, a’i holl dylwyth, i offrymu i’r Arglwydd yr aberth blynyddol, a’i adduned. 22 Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo byth. 23 Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr Arglwydd a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.
24 A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a’i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a’i dug ef i dŷ yr Arglwydd yn Seilo: a’r bachgen yn ieuanc. 25 A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli. 26 A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr Arglwydd. 27 Am y bachgen hwn y gweddïais; a’r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo: 28 Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r Arglwydd; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i’r Arglwydd. Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno.
2 A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr Arglwydd; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr Arglwydd: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di. 2 Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni. 3 Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd, a’i amcanion ef a gyflawnir. 4 Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth. 5 Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion. 6 Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny. 7 Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu. 8 Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt. 9 Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr. 10 Y rhai a ymrysonant â’r Arglwydd, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr Arglwydd a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog. 11 Ac Elcana a aeth i Rama i’w dŷ; a’r bachgen a fu weinidog i’r Arglwydd gerbron Eli yr offeiriad.
12 A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr Arglwydd. 13 A defod yr offeiriad gyda’r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, â chigwain dridant yn ei law; 14 Ac a’i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno. 15 Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd. 16 Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a’i cymeraf trwy gryfder. 17 Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr Arglwydd: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr Arglwydd.
18 A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Arglwydd, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain. 19 A’i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a’i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda’i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.
20 Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr Arglwydd i ti had o’r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr Arglwydd. A hwy a aethant i’w mangre eu hun. 21 A’r Arglwydd a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a’r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr Arglwydd.
22 Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a’r modd y gorweddent gyda’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi. 24 Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr Arglwydd droseddu. 25 Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a’i barnant ef: ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr Arglwydd eu lladd hwynt. 26 A’r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan Dduw, a dynion hefyd.
27 A daeth gŵr i Dduw at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo? 28 Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel? 29 Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel? 30 Am hynny medd Arglwydd Dduw Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr Arglwydd, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir. 31 Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad, fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di. 32 A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth. 33 A’r gŵr o’r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i’th lygaid ballu, ac i beri i’th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr. 34 A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau. 35 A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a’m meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd. 36 A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.
3 A’r bachgen Samuel a wasanaethodd yr Arglwydd gerbron Eli. A gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur. 2 A’r pryd hwnnw, pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu, fel na allai weled; 3 A chyn i lamp Duw ddiffoddi yn nheml yr Arglwydd, lle yr oedd arch Duw, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu: 4 Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi. 5 Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel a gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd. 6 A’r Arglwydd a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd. 7 Ac nid adwaenai Samuel eto yr Arglwydd, ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd eto. 8 A’r Arglwydd a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwasai ar y bachgen. 9 Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, Arglwydd; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le. 10 A daeth yr Arglwydd, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed.
11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, fe a ferwina ei ddwy glust ef. 12 Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith. 13 Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt. 14 Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli, na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth, nac â bwyd-offrwm byth.
15 A Samuel a gysgodd hyd y bore, ac a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd: a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledigaeth i Eli. 16 Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywedodd, Samuel fy mab. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 17 Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr Arglwydd wrthyt? na chela, atolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ddim o’r holl bethau a lefarodd efe wrthyt. 18 A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr Arglwydd yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.
19 A chynyddodd Samuel; a’r Arglwydd oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear. 20 A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel. 21 A’r Arglwydd a ymddangosodd drachefn yn Seilo: canys yr Arglwydd a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.