Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 3-5

Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron; y cyntaf‐anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles: Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd, Adoneia mab Haggith: Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig. Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. A’r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel: Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet, A Noga, a Neffeg, a Jaffia, Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw. Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.

10 A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau; 11 Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau; 12 Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau; 13 Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau; 14 Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau. 15 A meibion Joseia; y cyntaf‐anedig oedd Johanan, yr ail Joacim, y trydydd Sedeceia, y pedwerydd Salum. 16 A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.

17 A meibion Jechoneia; Assir, Salathiel ei fab yntau, 18 Malciram hefyd, a Phedaia, a Senasar, Jecameia, a Hosama, a Nedabeia. 19 A meibion Pedaia; Sorobabel, a Simei a meibion Sorobabel; Mesulam, a Hananeia, a Selomith eu chwaer hwynt: 20 A Hasuba, ac Ohel, a Berecheia, a Hasadeia, Jusab‐hesed, pump. 21 A meibion Hananeia; Pelatia a Jesaia: meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, meibion Sechaneia. 22 A meibion Sechaneia; Semaia: a meibion Semaia; Hattus, ac Igeal, a Bareia, a Nearia, a Saffat, chwech. 23 A meibion Nearia; Elioenai, a Heseceia, ac Asricam, tri. 24 A meibion Elioenai oedd, Hodaia, ac Eliasib, a Phelaia, ac Accub, a Johanan, a Dalaia, ac Anani, saith.

Meibion Jwda; Phares, Hesron, a Charmi, a Hur, a Sobal. A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath; a Jahath a genhedlodd Ahumai, a Lahad. Dyma deuluoedd y Sorathiaid. A’r rhai hyn oedd o dad Etam; Jesreel, ac Isma, ac Idbas: ac enw eu chwaer hwynt oedd Haselelponi. A Phenuel tad Gedor, ac Eser tad Husa. Dyma feibion Hur cyntaf‐anedig Effrata, tad Bethlehem.

Ac i Asur tad Tecoa yr oedd dwy wraig, Hela a Naara. A Naara a ddug iddo Ahusam, a Heffer, a Themeni, ac Hahastari. Dyma feibion Naara. A meibion Hela oedd, Sereth, a Jesoar, ac Ethnan. A Chos a genhedlodd Anub, a Sobeba, a theuluoedd Aharhel mab Harum.

Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid. 10 A Jabes a alwodd ar Dduw Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a’m cadw oddi wrth ddrwg, fel na’m gofidier! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.

11 A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir, yr hwn oedd dad Eston. 12 Ac Eston a genhedlodd Bethraffa, a Phasea, a Thehinna tad dinas Nahas. Dyma ddynion Recha. 13 A meibion Cenas; Othniel, a Seraia: a meibion Othniel; Hathath. 14 A Meonothai a genhedlodd Offra: a Seraia a genhedlodd Joab, tad glyn y crefftwyr; canys crefftwyr oeddynt hwy. 15 A meibion Caleb mab Jeffunne; Iru, Ela, a Naam: a meibion Ela oedd, Cenas. 16 A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel. 17 A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa. 18 A’i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth Mered. 19 A meibion ei wraig Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad. 20 A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd, Soheth, a Bensoheth.

21 A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea, 22 A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Saraff, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab, a Jasubilehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen. 23 Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau; gyda’r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.

24 Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul: 25 Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau. 26 A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau. 27 Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i’w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda. 28 A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar‐sual, 29 Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad, 30 Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn Siclag, 31 Ac yn Beth‐marcaboth, ac yn Hasarsusim, ac yn Beth‐birei, ac yn Saaraim. Dyma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Dafydd. 32 A’u trefydd hwynt oedd, Etam, ac Ain, Rimmon, a Thochen, ac Asan; pump o ddinasoedd. 33 A’u holl bentrefi hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal. Dyma eu trigfannau hwynt, a’u hachau. 34 A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amaseia, 35 A Joel, a Jehu mab Josibia, fab Seraia, fab Asiel, 36 Ac Elioenai, a Jaacoba, a Jesohaia, ac Asaia, ac Adiel, a Jesimiel, a Benaia, 37 A Sisa mab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia. 38 Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd, ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.

39 A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa i’w praidd. 40 A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen oedd o Cham. 41 A’r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a’r anheddau a gafwyd yno, ac a’u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i’w praidd hwynt yno. 42 Ac ohonynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir, a Phelatia, a Nearia, a Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi, yn ben arnynt. 43 Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec, ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn.

A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, (canys efe oedd gyntaf‐anedig, ond am iddo halogi gwely ei dad, rhoddwyd ei enedigaeth‐fraint ef i feibion Joseff, mab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaeth‐fraint: Canys Jwda a ragorodd ar ei frodyr, ac ohono ef y daeth blaenor: a’r enedigaeth‐fraint a roddwyd i Joseff.) Meibion Reuben cyntaf‐anedig Israel oedd, Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi. Meibion Joel; Semaia ei fab ef, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau, Beera ei fab yntau, yr hwn a gaethgludodd Tilgath‐pilneser brenin Asyria: hwn ydoedd dywysog i’r Reubeniaid. A’i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau: y pennaf oedd Jeiel, a Sechareia, A Bela mab Asas, fab Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer, a hyd at Nebo, a Baalmeon. Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe, hyd y lle yr eler i’r anialwch, oddi wrth afon Ewffrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead. 10 Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt, trwy holl du dwyrain Gilead.

11 A meibion Gad a drigasant gyferbyn â hwynt yng ngwlad Basan, hyd at Salcha: 12 Joel y pennaf, a Saffam yr ail, a Jaanai, a Saffat, yn Basan. 13 A’u brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd, Michael, a Mesulam, a Seba, a Jorai, a Jacan, a Sïa, a Heber, saith. 14 Dyma feibion Abihail fab Huri, fab Jaroa, fab Gilead, fab Michael, fab Jesisai, fab Jahdo, fab Bus; 15 Ahi mab Abdiel, fab Guni, y pennaf o dŷ eu tadau. 16 A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan, ac yn ei threfydd, ac yn holl bentrefi Saron, wrth eu terfynau. 17 Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Jotham brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.

18 Meibion Reuben, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, o wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dysgu i ryfel, oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain, yn myned allan i ryfel. 19 A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab. 20 A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar Dduw yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd arnynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo. 21 A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt; o’u camelod hwynt ddengmil a deugain, ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd, ac o asynnod ddwy fil, ac o ddynion gan mil. 22 Canys llawer yn archolledig a fuant feirw, am fod y rhyfel oddi wrth Dduw; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.

23 A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir: o Basan hyd Baal‐hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml. 24 Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Effer, ac Isi, ac Eliel, ac Asriel, a Jeremeia, a Hodafia, a Jadiel, gwŷr cedyrn o nerth, gwŷr enwog, a phennau tŷ eu tadau.

25 A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau, ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad, y rhai a ddinistriasai Duw o’u blaen hwynt. 26 A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath‐pilneser brenin Asyria, ac a’u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a’u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.