Readings for Celebrating Advent
Salm o foliant.
100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. 3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. 4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. 5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
20 Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo: os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau. 21 Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megis y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc ef. 22 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.