Readings for Celebrating Advent
1 Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. 2 Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. 3 Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. 4 Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion. 5 A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
6 Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. 7 Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. 8 Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni. 9 Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd. 10 Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef. 11 At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef. 12 Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef: 13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw. 14 A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
15 Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. 16 Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras. 17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. 18 Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.