Font Size
Readings for Celebrating Advent
Scripture passages that focus on the meaning of Advent and Christmas.
Duration: 35 days
Beibl William Morgan (BWM)
Salmau 66:1-7
I’r Pencerdd, Can neu Salm.
66 Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear: 2 Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus. 3 Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti. 4 Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela. 5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion. 6 Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo. 7 Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela.
Beibl William Morgan (BWM)
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.