Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 78:17-20

17 Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch. 18 A themtiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys. 19 Llefarasant hefyd yn erbyn Duw; dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch? 20 Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl?

Salmau 78:52-55

52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch. 53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt. 54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef. 55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.

1 Brenhinoedd 19:9-18

Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr Arglwydd ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias? 10 Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. 11 Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr Arglwydd. Ac wele yr Arglwydd yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr Arglwydd; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn: 12 Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain. 13 A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias? 14 Dywedodd yntau, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith. 15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria; 16 A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel‐mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun. 17 A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu. 18 A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef.

Rhufeiniaid 11:1-6

11 Am hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Canys yr wyf finnau hefyd yn Israeliad, o had Abraham, o lwyth Benjamin. Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau. Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal. Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras. Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw o ras mwyach: os amgen, nid yw gweithred yn weithred mwyach.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.