Revised Common Lectionary (Complementary)
112 Molwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr. 2 Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir. 3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe. 5 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion. 6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth. 7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi‐sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd. 8 Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion. 9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant.
10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
29 Gwae Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Dafydd ynddi! ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn; lladdant ebyrth. 2 Eto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar a griddfan; a hi a fydd i mi fel Ariel. 3 A gwersyllaf yn grwn i’th erbyn, ac a warchaeaf i’th erbyn mewn gwarchdwr, ac a gyfodaf wrthglawdd yn dy erbyn. 4 A thi a ostyngir; o’r ddaear y lleferi, ac o’r llwch y bydd isel dy leferydd; dy lais fydd hefyd o’r ddaear fel llais swynwr, a’th ymadrodd a hustyng o’r llwch. 5 A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch mân, a thyrfa’r cedyrn fel peiswyn yn myned heibio; ie, bydd yn ddisymwth ddiatreg. 6 Oddi wrth Arglwydd y lluoedd y gofwyir trwy daranau, a thrwy ddaeargryn, a thwrf mawr, trwy gorwynt, a thymestl, a fflam dân ysol.
7 Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel, fel breuddwyd gweledigaeth nos, sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a’i hamddiffynfa, ac a warchaeant arni. 8 Ie, bydd megis newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta; a phan ddeffrô, gwag fydd ei enaid: ac megis y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed; a phan ddeffrô, wele ef yn ddiffygiol, a’i enaid yn chwennych diod: felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion.
9 Arefwch, a rhyfeddwch; bloeddiwch, a gwaeddwch: meddwasant, ac nid trwy win; penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn. 10 Canys tywalltodd yr Arglwydd arnoch ysbryd trymgwsg, ac a gaeodd eich llygaid chwi: eich proffwydi, a’ch penaethiaid, y gweledyddion, a orchuddiodd efe. 11 A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni allaf; canys seliwyd ef. 12 Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni fedraf ar lyfr.
13 Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb. 14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd. 15 Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw. 16 Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg. 17 Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. 18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.