Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Micha 6:1-8

Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr Arglwydd; Cyfod, ymddadlau â’r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais. Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr Arglwydd; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel. Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y’th flinais? tystiolaetha i’m herbyn. Canys mi a’th ddygais o dir yr Aifft, ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o’th flaen Moses, Aaron, a Miriam. Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd.

 pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid? A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid? Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw?

Salmau 15

Salm Dafydd.

15 Arglwydd, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd? Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon: Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog. Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn a dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia. Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.

1 Corinthiaid 1:18-31

18 Canys yr ymadrodd am y groes, i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni’r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw. 19 Canys ysgrifenedig yw, Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf. 20 Pa le y mae’r doeth? pa le mae’r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd? 21 Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu. 22 Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb: 23 Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb; 24 Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw. 25 Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion. 26 Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd: 27 Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn; 28 A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai’r pethau sydd: 29 Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef. 30 Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth: 31 Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.

Mathew 5:1-12

A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato. Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. 10 Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 11 Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. 12 Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.