Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
27 Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf? 2 Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant. 3 Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus. 4 Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml. 5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. 6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd.
27 Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gwr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llanc am fyned o’n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air Duw.
10 Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr Arglwydd a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth? 2 Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab? 3 Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at Dduw i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win. 4 A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt. 5 Ar ôl hynny y deui i fryn Duw, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i’r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa, ac o’u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo. 6 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall. 7 A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys Duw sydd gyda thi. 8 A dos i waered o’m blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.
2 Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi. 2 Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg. 3 Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno: 4 A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y’n caethiwent ni: 5 I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi. 6 A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi: 7 Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr: 8 (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:) 9 A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad. 10 Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.