Revised Common Lectionary (Complementary)
12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun. 13 Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion. 14 O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear. 15 Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd. 16 Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder. 17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder. 18 Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef; 19 I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn. 20 Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd: efe yw ein porth a’n tarian. 21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef. 22 Bydded dy drugaredd, Arglwydd, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
6 Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion: 2 Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.
3 Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef. 4 Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch. 5 Yntau ni welodd mo’r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall.
6 Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i’r un lle yr â pawb?
7 Yna y dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw’r pethau hyn felly? 2 Yntau a ddywedodd, Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran; 3 Ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i’r tir a ddangoswyf i ti. 4 Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a’i symudodd ef i’r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon. 5 Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac efe a addawodd ei roddi iddo i’w feddiannu, ac i’w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo. 6 A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a’i caethiwant ef, ac a’i drygant, bedwar can mlynedd. 7 Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac a’m gwasanaethant i yn y lle hwn. 8 Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.