Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Read the Gospels in 40 Days

Read through the four Gospels--Matthew, Mark, Luke, and John--in 40 days.
Duration: 40 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Marc 13-14

13 Ac fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml, un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di’r adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a’r nis datodir. Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â’r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o’r neilltu, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddibennu? A’r Iesu a atebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi: Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw’r diwedd eto. Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daeargrynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.

Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i’r cynghorau, ac i’r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. 10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl genhedloedd. 11 Ond pan ddygant chwi, a’ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân. 12 A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth. 13 A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.

14 Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra anghyfanheddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd: 15 A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ. 16 A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg. 17 Ond gwae’r rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! 18 Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf. 19 Canya yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith. 20 Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid un cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau. 21 Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch: 22 Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth.

24 Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni, 25 A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir. 26 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant. 27 Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef. 28 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a’r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 29 Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. 30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â’r oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll. 31 Nef a daear a ânt heibio: ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim.

32 Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion sydd yn y nef, na’r Mab, ond y Tad. 33 Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. 34 Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i’r drysor wylio. 35 Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreddydd;) 36 Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu. 37 A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.

14 Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg, a gŵyl y bara croyw: a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef: Eithr dywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.

A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef. Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint? Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a’u rhoddi i’r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi. A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi. Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth. Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.

10 A Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i’w fradychu ef iddynt. 11 A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef.

12 A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyta’r pasg? 13 Ac efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch ef. 14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fod yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf, mi a’m disgyblion, fwyta’r pasg? 15 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod: yno paratowch i ni. 16 A’i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i’r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg. 17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyda’r deuddeg. 18 Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a’m bradycha i. 19 Hwythau a ddechreuasant dristáu, a dywedyd wrtho bob yn un ac un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi? 20 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl, yw efe. 21 Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: ond gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid.

22 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. 23 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoi diolch, efe a’i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant ohono. 24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer. 25 Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.

26 Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. 27 A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o’m plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir. 28 Eithr wedi i mi atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. 29 Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto ni byddaf fi. 30 A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddiw, o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith. 31 Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. A’r un modd y dywedasant oll. 32 A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo. 33 Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr. 34 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch. 35 Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. 36 Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. 37 Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr? 38 Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan. 39 Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd. 40 Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo. 41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid. 42 Cyfodwch, awn; wele, y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos.

43 Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid. 44 A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr. 45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a’i cusanodd ef.

46 A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a’i daliasant ef. 47 A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef. 48 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala i? 49 Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni’m daliasoch: ond rhaid yw cyflawni’r ysgrythurau. 50 A hwynt oll a’i gadawsant ef, ac a ffoesant. 51 A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth; a’r gwŷr ieuainc a’i daliasant ef. 52 A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.

53 A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a’r holl archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef. 54 A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân. 55 A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant. 56 Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson. 57 A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd, 58 Ni a’i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw. 59 Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson. 60 A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? 61 Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig? 62 A’r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau’r nef. 63 Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion? 64 Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a’i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth. 65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a’i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A’r gweinidogion a’i trawsant ef â gwiail.

66 Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, daeth un o forynion yr archoffeiriad: 67 A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyda’r Iesu o Nasareth. 68 Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i’r porth; a’r ceiliog a ganodd. 69 A phan welodd y llances ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un ohonynt. 70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt; canys Galilead wyt, a’th leferydd sydd debyg. 71 Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu, Nid adwaen i’r dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd amdano. 72 A’r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai’r Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, ti a’m gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.