Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Read the Gospels in 40 Days

Read through the four Gospels--Matthew, Mark, Luke, and John--in 40 days.
Duration: 40 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Mathew 13-14

13 Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y môr. A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i’r llong, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr heuwr a aeth allan i hau. Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant. Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear: Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant. A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy. Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. 10 A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion? 11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy. 12 Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo. 13 Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. 14 Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch; 15 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt. 16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed: 17 Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.

18 Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr. 19 Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae’r drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd. 20 A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn; 21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir. 22 A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. 23 Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24 Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes: 25 A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. 26 Ac wedi i’r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. 27 A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo? 28 Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt? 29 Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt. 30 Gadewch i’r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i’m hysgubor.

31 Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes: 32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33 Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl. 34 Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt; 35 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.

36 Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i’r tŷ: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddameg efrau’r maes. 37 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau’r had da, yw Mab y dyn; 38 A’r maes yw’r byd; a’r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas; a’r efrau yw plant y drwg; 39 A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt, yw diafol; a’r cynhaeaf yw diwedd y byd; a’r medelwyr yw’r angylion. 40 Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a’u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn. 41 Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnânt anwiredd; 42 Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 43 Yna y llewyrcha’r rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

44 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd, ac yn prynu’r maes hwnnw.

45 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg: 46 Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef.

47 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth: 48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i’r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg. 49 Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, 50 Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 51 Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd. 52 A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor bethau newydd a hen.

53 A bu, wedi i’r Iesu orffen y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno. 54 Ac efe a ddaeth i’w wlad ei hun, ac a’u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hwn, a’r gweithredoedd nerthol i’r dyn hwn? 55 Onid hwn yw mab y saer? onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joses, a Simon, a Jwdas, ei frodyr ef? 56 Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll? 57 A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 58 Ac ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

14 Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu; Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.

Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai, ac a’i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef. Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi. Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd. Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod. O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai. A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl. A’r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi. 10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar. 11 A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llances: a hi a’i dug ef i’w mam. 12 A’i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i’r Iesu.

13 A phan glybu’r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o’r neilltu: ac wedi clywed o’r torfeydd, hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd. 14 A’r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.

15 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd. 16 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. 17 A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn. 18 Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi. 19 Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd. 20 A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn. 21 A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

22 Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i’r llong, ac i fyned i’r lan arall o’i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith. 23 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynnodd i’r mynydd wrtho ei hun, i weddïo: ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig. 24 A’r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd. 25 Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu atynt, gan rodio ar y môr. 26 A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn. 27 Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch. 28 A Phedr a’i hatebodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd. 29 Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu. 30 Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi. 31 Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist? 32 A phan aethant hwy i mewn i’r llong, peidiodd y gwynt. 33 A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a’i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti.

34 Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret. 35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl; 36 Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.