Read the Gospels in 40 Days
1 Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw; 2 Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 3 Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn union ei lwybrau ef. 4 Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. 5 Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea, a’r Hierosolymitiaid, ac a’u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. 6 Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. 7 Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i’w datod. 8 Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân. 9 A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o’r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen. 10 Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen. 11 A llef a ddaeth o’r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 12 Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch. 13 Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda’r gwylltfilod: a’r angylion a weiniasant iddo. 14 Ac ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw; 15 A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl. 16 Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.) 17 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion. 18 Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef. 19 Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau. 20 Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r cyflogddynion, ac a aethant ar ei ôl ef. 21 A hwy a aethant i mewn i Gapernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i’r synagog, efe a athrawiaethodd. 22 A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. 23 Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd aflan: ac efe a lefodd, 24 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a’th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw. 25 A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono. 26 Yna wedi i’r ysbryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef uchel, efe a ddaeth allan ohono. 27 Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo. 28 Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea. 29 Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan. 30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi. 31 Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy. 32 Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig. 33 A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. 34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef. 35 A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. 36 A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef. 37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. 38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan. 39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid. 40 A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau. 41 A’r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân. 42 Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef. 43 Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a’i hanfonodd ef ymaith yn y man; 44 Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy. 45 Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r gair ar led, fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.
2 Ac efe a aeth drachefn i Gapernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ. 2 Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd, hyd na annent hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy. 3 A daethant ato, gan ddwyn un claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar. 4 A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa, didoi’r to a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai’r claf o’r parlys. 5 A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau. 6 Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonnau, 7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddau pechodau, ond Duw yn unig? 8 Ac yn ebrwydd, pan wybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau? 9 Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a rhodia? 10 Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) 11 Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a dos i’th dŷ. 12 Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymerth i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn. 13 Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth ato; ac efe a’u dysgodd hwynt.
14 Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a’i canlynodd ef. 15 A bu, a’r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda’r Iesu a’i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a’i canlynasent ef. 16 A phan welodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef yn bwyta gyda’r publicanod a’r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda’r publicanod a’r pechaduriaid? 17 A’r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
18 A disgyblion Ioan a’r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio? 19 A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt, ni allant ymprydio. 20 Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny. 21 Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg. 22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.
23 A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y Saboth; a’i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu’r tywys. 24 A’r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon? 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef? 26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archoffeiriad, ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i’r offeiriaid yn unig, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef 27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth: 28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth.
3 Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. 2 A hwy a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef. 3 Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. 4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn. 5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynnodd: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. 6 A’r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda’r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 7 A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr: a lliaws mawr a’i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea, 8 Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato. 9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef. 10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt. 11 A’r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw. 12 Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
13 Ac efe a esgynnodd i’r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato. 14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; 15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid. 16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr; 17 Ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;) 18 Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead, 19 A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ. 20 A’r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta bara. 21 A phan glybu’r eiddo ef, hwy a aethant i’w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o’i bwyll.
22 A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid. 23 Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll. 25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll. 26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd. 27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef. 28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant: 29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd: 30 Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo.
31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a’i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef. 32 A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio. 33 Ac efe a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i? 34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i. 35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam i.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.