Beginning
21 A digwyddodd, wedi i ni osod allan, ac ymadael â hwynt, ddyfod ohonom ag uniongyrch i Coos, a thrannoeth i Rodes; ac oddi yno i Patara. 2 A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice, ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymaith. 3 Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni, ni a’i gadawsom hi ar y llaw aswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth. 4 Ac wedi i ni gael disgyblion, nyni a arosasom yno saith niwrnod: y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerwsalem. 5 A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynasom; a phawb, ynghyd â’r gwragedd a’r plant, a’n hebryngasant ni hyd allan o’r ddinas: ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddiasom. 6 Ac wedi i ni ymgyfarch â’n gilydd, ni a ddringasom i’r llong; a hwythau a ddychwelasant i’w cartref. 7 Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi inni gyfarch y brodyr, ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt. 8 A thrannoeth, y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant, ac a ddaethant i Cesarea. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, (yr hwn oedd un o’r saith,) ni a arosasom gydag ef. 9 Ac i hwn yr oedd pedair merched o forynion, yn proffwydo. 10 Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i waered o Jwdea broffwyd a’i enw Agabus. 11 Ac wedi dyfod atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylo ef a’i draed, efe a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân; Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem, ac a’i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd. 12 A phan glywsom y pethau hyn, nyni, a’r rhai oedd o’r fan honno hefyd, a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerwsalem. 13 Eithr Paul a atebodd, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyf fi nid i’m rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerwsalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu. 14 A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler. 15 Hefyd, ar ôl y dyddiau hynny, ni a gymerasom ein beichiau, ac a aethom i fyny i Jerwsalem. 16 A rhai o’r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hen ddisgybl, gyda’r hwn y lletyem. 17 Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a’n derbyniasant yn llawen. 18 A’r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a’r holl henuriaid a ddaethant yno. 19 Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef. 20 A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o’r Iddewon y rhai a gredasant; ac y maent oll yn dwyn sêl i’r ddeddf. 21 A hwy a glywsant amdanat ti, dy fod di yn dysgu’r Iddewon oll, y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd, i ymwrthod â Moses; ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau. 22 Pa beth gan hynny? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd: canys hwy a gânt glywed dy ddyfod di. 23 Gwna gan hynny yr hyn a ddywedwn wrthyt; Y mae gennym ni bedwar gwŷr a chanddynt adduned arnynt: 24 Cymer y rhai hyn, a glanhaer di gyda hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr eilliont eu pennau: ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y ddeddf. 25 Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant, ni a ysgrifenasom, ac a farnasom, na bo iddynt gadw dim o’r cyfryw beth; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag puteindra. 26 Yna Paul a gymerth y gwŷr; a thrannoeth, gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt, efe a aeth i mewn i’r deml; gan hysbysu cyflawni dyddiau’r glanhad, hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt. 27 A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno, 28 Gan lefain, Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma’r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a’r gyfraith, a’r lle yma: ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i’r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn. 29 Canys hwy a welsent o’r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r deml. 30 A chynhyrfwyd y ddinas oll, a’r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a’i tynasant ef allan o’r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau. 31 Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben‐capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg. 32 Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen‐capten a’r milwyr, a beidiasant â churo Paul. 33 Yna y daeth y pen‐capten yn nes, ac a’i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai. 34 Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell. 35 A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa. 36 Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymaith ag ef. 37 A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i’r castell, efe a ddywedodd wrth y pen‐capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg? 38 Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog? 39 A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl. 40 Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl. Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg, gan ddywedyd,
22 Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron. 2 (A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,) 3 Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw. 4 A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd. 5 Megis ag y mae’r archoffeiriad yn dyst i mi, a’r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i’w cosbi. 6 Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o’r nef ddisgleirio o’m hamgylch. 7 A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid? 8 A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. 9 Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. 10 Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur. 11 A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a’r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus. 12 Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a’r oeddynt yn preswylio yno, 13 A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno. 14 Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a’th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef. 15 Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist. 16 Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd. 17 A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg; 18 A’i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi. 19 A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti: 20 A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i’w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdent ef. 21 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys mi a’th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd. 22 A hwy a’i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, Ymaith â’r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys ei fod ef yn fyw. 23 Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i’r awyr, 24 Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly. 25 Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd? 26 A phan glybu’r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i’r pen‐capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw’r dyn hwn. 27 A’r pen‐capten a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie. 28 A’r pen‐capten a atebodd, Â swm mawr y cefais i’r ddinasfraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol. 29 Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef: a’r pen‐capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef. 30 A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a’i gollyngodd ef o’r rhwymau, ac a archodd i’r archoffeiriaid a’u cyngor oll ddyfod yno; ac efe a ddug Paul i waered, ac a’i gosododd ger eu bron hwy.
23 A phaul, yn edrych yn graff ar y cyngor, a ddywedodd, Ha wŷr frodyr, mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddiw. 2 A’r archoffeiriad Ananeias a archodd i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, ei daro ef ar ei enau. 3 Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a’th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y ddeddf, a chan droseddu’r ddeddf yn peri fy nharo i? 4 A’r sefyllwyr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di archoffeiriad Duw? 5 A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl. 6 A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid, a’r llall o’r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i. 7 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Phariseaid a’r Sadwceaid: a rhannwyd y lliaws. 8 Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad, nac angel, nac ysbryd: eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o’r ddau. 9 A bu llefain mawr: a’r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr os ysbryd a lefarodd wrtho, neu angel, nac ymrysonwn â Duw. 10 Ac wedi cyfodi terfysg mawr, y pen‐capten, yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i’r milwyr fyned i waered, a’i gipio ef o’u plith hwynt, a’i ddwyn i’r castell. 11 Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur: canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd. 12 A phan aeth hi yn ddydd, rhai o’r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a’u rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul. 13 Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai a wnaethant y cynghrair hwn. 14 A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a’n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul. 15 Yn awr gan hynny hysbyswch gyda’r cyngor i’r pen‐capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef: a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i’w ladd ef. 16 Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i’r castell, ac a fynegodd i Paul. 17 A Phaul a alwodd un o’r canwriaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten; canys y mae ganddo beth i’w fynegi iddo. 18 Ac efe a’i cymerth ef, ac a’i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a’m galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i’w ddywedyd wrthyt. 19 A’r pen‐capten a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o’r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi? 20 Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i’r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef. 21 Ond na chytuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roesant ddiofryd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti. 22 Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef. 23 Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o’r nos; 24 A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i’w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw. 25 Ac efe a ysgrifennodd lythyr, yn cynnwys yr ystyriaeth yma: 26 Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, yn anfon annerch. 27 Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â’i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd. 28 A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a’i dygais ef i waered i’w cyngor hwynt: 29 Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o’u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau. 30 A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i’r gŵr, myfi a’i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach. 31 Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a’i dygasant o hyd nos i Antipatris. 32 A thrannoeth, gan adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i’r castell: 33 Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef. 34 Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd; 35 Mi a’th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.