Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Beginning

Read the Bible from start to finish, from Genesis to Revelation.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Actau 16-17

16 Yna y daeth efe i Derbe ac i Lystra. Ac wele, yr oedd yno ryw ddisgybl, a’i enw Timotheus, mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes, ac yn credu; a’i dad oedd Roegwr: Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium. Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a’i cymerth ac a’i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef. Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy’r dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw’r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem. Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd. Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu’r gair yn Asia; Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia: ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt. Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Droas. A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni. 10 A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o’r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy. 11 Am hynny, wedi myned ymaith o Droas, ni a gyrchasom yn union i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis; 12 Ac oddi yno i Philipi, yr hon sydd brifddinas o barth o Facedonia, dinas rydd: ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai. 13 Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o’r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddïo; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.

14 A rhyw wraig a’i henw Lydia, un yn gwerthu porffor, o ddinas y Thyatiriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. 15 Ac wedi ei bedyddio hi a’i theulu, hi a ddymunodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod i’n ffyddlon i’r Arglwydd, deuwch i mewn i’m tŷ, ac arhoswch yno. A hi a’n cymhellodd ni.

16 A digwyddodd, a ni’n myned i weddïo, i ryw lances, yr hon oedd ganddi ysbryd dewiniaeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri llawer o elw i’w meistriaid wrth ddywedyd dewiniaeth. 17 Hon a ddilynodd Paul a ninnau, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth. 18 A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul yn flin ganddo, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr ysbryd, Yr ydwyf yn gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan ohoni. Ac efe a aeth allan yr awr honno.

19 A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac a’u llusgasant hwy i’r farchnadfa, at y llywodraethwyr; 20 Ac a’u dygasant hwy at y swyddogion, ac a ddywedasant, Y mae’r dynion hyn, y rhai ydynt Iddewon, yn llwyr gythryblio ein dinas ni, 21 Ac yn dysgu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn na’u gwneuthur, y rhai ydym Rufeinwyr. 22 A’r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy; a’r swyddogion, gan rwygo eu dillad, a orchmynasant eu curo hwy â gwiail. 23 Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt, hwy a’u taflasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel; 24 Yr hwn, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a’u bwriodd hwy i’r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion.

25 Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo, ac yn canu mawl i Dduw: a’r carcharorion a’u clywsant hwy. 26 Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau’r carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion. 27 A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau’r carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun; gan dybied ffoi o’r carcharorion ymaith. 28 Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll. 29 Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas, 30 Ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, O feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig? 31 A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a’th deulu. 32 A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef. 33 Ac efe a’u cymerth hwy yr awr honno o’r nos, ac a olchodd eu briwiau: ac efe a fedyddiwyd, a’r eiddo oll, yn y man. 34 Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i’w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a’i holl deulu. 35 A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion a anfonasant y ceisiaid, gan ddywedyd, Gollwng ymaith y dynion hynny. 36 A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y swyddogion a anfonasant i’ch gollwng chwi ymaith: yn awr gan hynny cerddwch ymaith; ewch mewn heddwch. 37 Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau’n Rhufeinwyr, hwy a’n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan. 38 A’r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i’r swyddogion: a hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt. 39 A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt, ac a’u dygasant allan, ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o’r ddinas. 40 Ac wedi myned allan o’r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia: ac wedi gweled y brodyr, hwy a’u cysurasant, ac a ymadawsant.

17 Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon. A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o’r ysgrythurau, Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw’r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi. A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o’r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig.

Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl. A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o’r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu’r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd; Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae’r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu. A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraethwyr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn. Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a’r lleill, hwy a’u gollyngasant hwynt ymaith.

10 A’r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon. 11 Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly. 12 Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig. 13 A phan wybu’r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi’r dyrfa. 14 Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i’r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno. 15 A chyfarwyddwyr Paul a’i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.

16 A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod. 17 Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â’r Iddewon, ac â’r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef. 18 A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid, ac o’r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai’r siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu’r Iesu, a’r atgyfodiad, iddynt. 19 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw’r ddysg newydd hon, a draethir gennyt? 20 Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i’n clustiau ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a allai’r pethau hyn fod. 21 (A’r holl Atheniaid, a’r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.)

22 Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol: 23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I’R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 24 Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: 25 Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. 26 Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; 27 Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a’i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom: 28 Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o’ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. 29 Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn. 30 A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau: 31 Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.

32 A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a’th wrandawn drachefn am y peth hwn. 33 Ac felly Paul a aeth allan o’u plith hwynt. 34 Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant: ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a’i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.