Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Beginning

Read the Bible from start to finish, from Genesis to Revelation.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Actau 14-15

14 Adigwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd. Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau’r Cenhedloedd, ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr. Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt. Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda’r Iddewon, a rhai gyda’r apostolion. A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a’r Iddewon, ynghyd â’u llywodraethwyr, i’w hamherchi hwy, ac i’w llabyddio, Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i’r wlad oddi amgylch: Ac yno y buant yn efengylu.

Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed. Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd, 10 A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd. 11 A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom. 12 A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf. 13 Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i’r pyrth, ac a fynasai gyda’r bobl aberthu. 14 A’r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain, 15 A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi’r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynddynt: 16 Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain. 17 Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd. 18 Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.

19 A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; ac wedi llabyddio Paul, a’i llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw. 20 Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o’i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i’r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe. 21 Ac wedi iddynt bregethu’r efengyl i’r ddinas honno, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia, 22 Gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, a’u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw. 23 Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a’u gorchmynasant hwynt i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo. 24 Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia. 25 Ac wedi pregethu’r gair yn Perga, hwy a ddaethant i waered i Attalia: 26 Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o’r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i’r gorchwyl a gyflawnasant. 27 Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i’r Cenhedloedd ddrws y ffydd. 28 Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda’r disgyblion.

15 Arhai wedi dyfod i waered o Jwdea, a ddysgasant y brodyr, gan ddywedyd, Onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig. A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill ohonynt, i fyny i Jerwsalem, at yr apostolion a’r henuriaid, ynghylch y cwestiwn yma. Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys, hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd: a hwy a barasant lawenydd mawr i’r brodyr oll. Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt. Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.

A’r apostolion a’r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma. Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o’r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megis ag i ninnau: Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd. 10 Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau’r disgyblion, yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn? 11 Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd â hwythau.

12 A’r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.

13 Ac wedi iddynt ddistewi, atebodd Iago, gan ddywedyd, Ha wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi. 14 Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymryd o’r Cenhedloedd bobl i’w enw. 15 Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwydi; megis y mae yn ysgrifenedig, 16 Ar ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio; a’i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a’i cyfodaf eilchwyl: 17 Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio’r Arglwydd, ac i’r holl Genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn. 18 Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed. 19 Oherwydd paham fy marn i yw, na flinom y rhai o’r Cenhedloedd a droesant at Dduw: 20 Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt, ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth waed. 21 Canys y mae i Moses ym mhob dinas, er yr hen amseroedd, rai a’i pregethant ef, gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth. 22 Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a’r henuriaid, ynghyd â’r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiochia, gyda Phaul a Barnabas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr: 23 A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a’r henuriaid, a’r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch: 24 Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw’r ddeddf; i’r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn: 25 Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgynnull yn gytûn, anfon gwŷr etholedig atoch, gyda’n hanwylyd Barnabas a Phaul; 26 Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist. 27 Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas; a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau. 28 Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân, a chennym ninnau, na ddodid arnoch faich ychwaneg na’r pethau angenrheidiol hyn; 29 Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb: oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach. 30 Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr. 31 Ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychu a wnaethant am y diddanwch. 32 Jwdas hefyd a Silas, a hwythau yn broffwydi, trwy lawer o ymadrodd a ddiddanasant y brodyr, ac a’u cadarnhasant. 33 Ac wedi iddynt aros yno dros amser, hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch, gan y brodyr, at yr apostolion. 34 Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno. 35 A Phaul a Barnabas a arosasant yn Antiochia, gan ddysgu ac efengylu gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill hefyd.

36 Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn, ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy. 37 A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc. 38 Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt, yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia, ac nid aethai gyda hwynt i’r gwaith. 39 A bu gymaint cynnwrf rhyngddynt, fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd; ac y cymerth Barnabas Marc gydag ef, ac y mordwyodd i Cyprus: 40 Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymaith, wedi ei orchymyn i ras Duw gan y brodyr. 41 Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau’r eglwysi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.