Revised Common Lectionary (Complementary)
113 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd. 2 Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. 3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd. 4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd. 5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel, 6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? 7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, 8 I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl. 9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.
23 Na chyfod enllib; na ddod dy law gyda’r annuwiol i fod yn dyst anwir.
2 Na ddilyn liaws i wneuthur drwg; ac nac ateb mewn ymrafael, gan bwyso yn ôl llaweroedd, i ŵyro barn.
3 Na pharcha’r tlawd chwaith yn ei ymrafael.
4 Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu â’i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo. 5 Os gweli asyn yr hwn a’th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â’i gynorthwyo? gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef. 6 Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael. 7 Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater: na ladd chwaith na’r gwirion na’r cyfiawn: canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol.
8 Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
9 Na orthryma’r dieithr: chwi a wyddoch galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft.
3 Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad? 2 Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw. 3 Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? 4 Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner. 5 Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;) 6 Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd? 7 Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur? 8 Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.