Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 95

95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd, Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch: Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd. 10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd: 11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.

Exodus 16:1-8

16 A hwy a symudasant o Elim; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft. A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd yng ngwlad yr Aifft, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt. Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd. A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aifft. Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn? Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr Arglwydd.

Colosiaid 1:15-23

15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur: 16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. 17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. 18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. 19 Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; 20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. 21 A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe, 22 Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef: 23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog:

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.