Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.
30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. 2 Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. 3 Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. 4 Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. 5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. 6 Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. 7 O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. 8 Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. 9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.
6 Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml. 2 Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. 3 A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef. 4 A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.
4 Ar ôl y pethau hyn yr edrychais; ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef: a’r llais cyntaf a glywais oedd fel llais utgorn yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Dring i fyny yma, a mi a ddangosaf i ti’r pethau sydd raid eu bod ar ôl hyn. 2 Ac yn y man yr oeddwn yn yr ysbryd: ac wele, yr oedd gorseddfainc wedi ei gosod yn y nef, ac un yn eistedd ar yr orseddfainc. 3 A’r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iasbis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus. 4 Ac ynghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain: ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur. 5 Ac yr oedd yn dyfod allan o’r orseddfainc fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc, y rhai yw saith Ysbryd Duw. 6 Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grisial: ac yng nghanol yr orseddfainc, ac ynghylch yr orseddfainc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ôl. 7 A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail anifail yn debyg i lo, a’r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn, a’r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg. 8 A’r pedwar anifail oedd ganddynt, bob un ohonynt, chwech o adenydd o’u hamgylch; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorffwys ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oedd, a’r hwn sydd, a’r hwn sydd i ddyfod. 9 A phan fyddo’r anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, 10 Y mae’r pedwar henuriad ar hugain yn syrthio gerbron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac yn addoli’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, ac yn bwrw eu coronau gerbron yr orseddfainc, gan ddywedyd, 11 Teilwng wyt, O Arglwydd, i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu: canys ti a greaist bob peth, ac oherwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.