Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 4-6

A Daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a’r Philistiaid a wersyllasant yn Affec. A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a’r gad a ymgyfarfu; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr.

A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr Arglwydd ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr Arglwydd, a deled i’n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion. Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod Duw. A phan ddaeth arch cyfamod yr Arglwydd i’r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear. A phan glybu’r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i’r gwersyll. A’r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth Duw i’r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu’r fath beth o flaen hyn. Gwae ni! pwy a’n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â’r holl blâu yn yr anialwch. Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu’r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.

10 A’r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i’w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed. 11 Ac arch Duw a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.

12 A gŵr o Benjamin a redodd o’r fyddin, ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw, â’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben. 13 A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw. A phan ddaeth y gŵr i’r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd. 14 A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth yw llais y cynnwrf yma? A’r gŵr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli. 15 Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled. 16 A’r gŵr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o’r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddiw o’r fyddin. A dywedodd yntau, Pa beth a ddigwyddodd, fy mab? 17 A’r gennad a atebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl; a’th ddau fab hefyd, Hoffni a Phinees, a fuant feirw, ac arch Duw a ddaliwyd. 18 A phan grybwyllodd efe am arch Duw, yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn gerllaw y porth; a’i wddf a dorrodd, ac efe a fu farw: canys y gŵr oedd hen a thrwm. Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd.

19 A’i waudd ef, gwraig Phinees, oedd feichiog, yn agos i esgor: a phan glybu sôn ddarfod dal arch Duw, a marw o’i chwegrwn a’i gŵr, hi a ymgrymodd, ac a glafychodd: canys ei gwewyr a ddaeth arni. 20 Ac ynghylch y pryd y bu hi farw, y dywedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyda hi, Nac ofna; canys esgoraist ar fab Ond nid atebodd hi, ac nid ystyriodd. 21 A hi a alwodd y bachgen Ichabod; gan ddywedyd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; (am ddal arch Duw, ac am ei chwegrwn a’i gŵr.) 22 A hi a ddywedodd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; canys arch Duw a ddaliwyd.

Ar Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod. A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon.

A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd. A hwy a gymerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le. Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef. Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn. A thrwm fu llaw yr Arglwydd ar yr Asdodiaid; ac efe a’u distrywiodd hwynt, ac a’u trawodd hwynt, sef Asdod a’i therfynau, â chlwyf y marchogion. A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw. Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch Duw Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno. Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr Arglwydd yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd. 10 Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron. A phan ddaeth arch Duw i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel, i’n lladd ni a’n pobl. 11 Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch Duw Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a’n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy’r holl ddinas; trom iawn oedd llaw Duw yno. 12 A’r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a drawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i’r nefoedd.

A bu arch yr Arglwydd yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd. A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr Arglwydd? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref. Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch Duw Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y’ch iacheir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi. Yna y dywedasant hwythau, Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo? A hwy a ddywedasant, Pump o ffolennau aur, a phump o lygod aur, yn ôl rhif arglwyddi’r Philistiaid: canys yr un pla oedd arnoch chwi oll, ac ar eich arglwyddi. Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno’r tir; a rhoddwch ogoniant i Dduw Israel: ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir. A phaham y caledwch chwi eich calonnau, megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith? Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd, a chymerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt; a deliwch y buchod dan y fen, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ: A chymerwch arch yr Arglwydd, a rhoddwch hi ar y fen; a’r tlysau aur, y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned ymaith. Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a’n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.

10 A’r gwŷr a wnaethant felly: ac a gymerasant ddwy fuwch flithion, ac a’u daliasant hwy dan y fen, ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ: 11 Ac a osodasant arch yr Arglwydd ar y fen, a’r gist â’r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt. 12 A’r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua’r llaw ddeau na thua’r aswy; ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes. 13 A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn: ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr arch; ac a lawenychasant wrth ei gweled. 14 A’r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad, ac a safodd yno; ac yno yr oedd maen mawr: a hwy a holltasant goed y fen, ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 15 A’r Lefiaid a ddisgynasant arch yr Arglwydd, a’r gist yr hon oedd gyda hi, yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi, ac a’u gosodasant ar y maen mawr: a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant ebyrth i’r Arglwydd y dydd hwnnw. 16 A phum arglwydd y Philistiaid, pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw. 17 A dyma’r ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i’r Arglwydd; dros Asdod un, dros Gasa un, dros Ascalon un, dros Gath un, dros Ecron un: 18 A’r llygod aur, yn ôl rhifedi holl ddinasoedd y Philistiaid, yn perthynu i’r pum arglwydd, yn gystal y dinasoedd caerog, a’r trefi heb gaerau, hyd y maen mawr Abel, yr hwn y gosodasant arno arch yr Arglwydd; yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josua y Bethsemesiad.

19 Ac efe a drawodd wŷr Bethsemes, am iddynt edrych yn arch yr Arglwydd, ie, trawodd o’r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr. A’r bobl a alarasant, am i’r Arglwydd daro’r bobl â lladdfa fawr. 20 A gwŷr Bethsemes a ddywedasant, Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd hwn? ac at bwy yr âi efe oddi wrthym ni?

21 A hwy a anfonasant genhadau at drigolion Ciriath-jearim, gan ddywedyd, Y Philistiaid a ddygasant adref arch yr Arglwydd; deuwch i waered, a chyrchwch hi i fyny atoch chwi.

Luc 9:1-17

Ac efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iacháu clefydau. Ac efe a’u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iacháu’r rhai cleifion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymerwch ddim i’r daith, na ffyn nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch. A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, pan eloch allan o’r ddinas honno, ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt. Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy’r trefi, gan bregethu’r efengyl, a iacháu ym mhob lle.

A Herod y tetrarch a glybu’r cwbl oll a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw; A rhai eraill, ymddangos o Eleias; a rhai eraill, mai proffwyd, un o’r rhai gynt, a atgyfodasai. A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.

10 A’r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo’r cwbl a wnaethent. Ac efe a’u cymerth hwynt, ac a aeth o’r neilltu, i le anghyfannedd yn perthynu i’r ddinas a elwir Bethsaida. 11 A’r bobloedd pan wybuant, a’i dilynasant ef: ac efe a’u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu. 12 A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau; a’r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i’r trefi, ac i’r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd. 13 Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i’r bobl hyn oll. 14 Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain. 15 Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd. 16 Ac efe a gymerodd y pum torth, a’r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i’r nef, ac a’u bendithiodd hwynt, ac a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod gerbron y bobl. 17 A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd, ddeuddeg basgedaid.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.