Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 16-17

16 Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes, a’i henw Agar. A Sarai a ddywedodd wrth Abram, Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos, atolwg, at fy llawforwyn; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai. A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.

Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi ohoni, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi. Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi ohoni, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi. Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.

Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur: Ac efe a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr ei di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai. Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylo hi. 10 Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhau yr amlhaf dy had di, fel na rifir ef o luosowgrwydd. 11 Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di. 12 Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig gerbron ei holl frodyr. 13 A hi a alwodd enw yr Arglwydd, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ôl yr hwn sydd yn edrych arnaf? 14 Am hynny y galwyd y ffynnon Beer‐lahai‐roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.

15 Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael. 16 Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.

17 Aphan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith. A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th amlhaf di yn aml iawn. Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd, Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfamod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd. A’th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham; canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum. A mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti. Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th had ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i’th had ar dy ôl di. A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.

A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfamod i, ti a’th had ar dy ôl, trwy eu hoesoedd. 10 Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ôl di: enwaedir pob gwryw ohonoch chwi. 11 A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau. 12 Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau: yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o’th had di. 13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi, yn gyfamod tragwyddol. 14 A’r gwryw dienwaededig, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i.

15 Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi. 16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab ohoni: ie bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi. 17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain? 18 Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di! 19 A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol, ac â’i had ar ei ôl ef. 20 Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i lluosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr. 21 Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf. 22 Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fyny oddi wrth Abraham.

23 Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef. 24 Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef. 25 Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef. 26 O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab. 27 A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gydag ef.

Mathew 5:27-48

27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb; 28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. 29 Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 30 Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: 32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd: 34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i’r nef; canys gorseddfa Duw ydyw: 35 Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw. 36 Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. 37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae.

38 Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant: 39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd. 40 Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd. 41 A phwy bynnag a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. 42 Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.

43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. 44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 45 Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46 Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? 47 Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? 48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.