Beginning
15 Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, 2 Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara. 3 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi? 4 Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw. 5 Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd. 6 Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun. 7 O ragrithwyr, da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd, 8 Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau, a’m hanrhydeddu â’u gwefusau; a’u calon sydd bell oddi wrthyf. 9 Eithr yn ofer y’m hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.
10 Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deellwch. 11 Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, hynny sydd yn halogi dyn. 12 Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o’r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn? 13 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir. 14 Gadewch iddynt: tywysogion deillion i’r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos. 15 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni’r ddameg hon. 16 A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau eto heb ddeall? 17 Onid ydych chwi yn deall eto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i’r genau, yn cilio i’r bola, ac y bwrir ef allan i’r geudy? 18 Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau, sydd yn dyfod allan o’r galon; a’r pethau hynny a halogant ddyn. 19 Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau: 20 Dyma’r pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn.
21 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. 22 Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul. 23 Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl. 24 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. 25 Ond hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi. 26 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cŵn. 27 Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi. 28 Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan.
29 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno. 30 A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt: 31 Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
32 A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd. 33 A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint? 34 A’r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. 35 Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear. 36 A chan gymryd y saith dorth, a’r pysgod, a diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’r disgyblion i’r dyrfa. 37 A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn. 38 A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 39 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.
16 Ac wedi i’r Phariseaid a’r Sadwceaid ddyfod ato, a’i demtio, hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef. 2 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo’r hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae’r wybr yn goch. 3 A’r bore, Heddiw drycin; canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau? 4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith. 5 Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i’r lan arall, hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt.
6 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid. 7 A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymerasom fara gennym. 8 A’r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi? 9 Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny? 10 Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny? 11 Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid? 12 Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid.
13 Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn? 14 A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Eleias, ac eraill, mai Jeremeias, neu un o’r proffwydi. 15 Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? 16 A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw. 17 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 18 Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi. 19 A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd. 20 Yna y gorchmynnodd efe i’w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.
21 O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a chyfodi y trydydd dydd. 22 A Phedr, wedi ei gymryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthyt dy hun; ni bydd hyn i ti. 23 Ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrth Pedr, Dos yn fy ôl i, Satan: rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
24 Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. 25 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid i, a’i caiff. 26 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? 27 Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred. 28 Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma, a’r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.
17 Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu; 2 A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni. 3 Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef. 4 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias. 5 Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a’u cysgododd hwynt: ac wele, lef o’r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd: gwrandewch arno ef. 6 A phan glybu’r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. 7 A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. 8 Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. 9 Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw. 10 A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf? 11 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a adfer bob peth. 12 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Eleias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy. 13 Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.
14 Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth ato ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau, 15 Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych. 16 Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iacháu ef. 17 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma ataf fi. 18 A’r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan ohono: a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno. 19 Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? 20 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac efe a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi. 21 Eithr nid â’r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.
22 Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion: 23 A hwy a’i lladdant; a’r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.
24 Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged? 25 Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid? 26 Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion. 27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.