Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Beginning

Read the Bible from start to finish, from Genesis to Revelation.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Mathew 7-8

Na fernwch, fel na’ch barner: Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.

Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.

Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo? 12 Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.

13 Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: 14 Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.

15 Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. 16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 17 Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. 19 Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 20 Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

21 Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 22 Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? 23 Ac yna yr addefaf wrthynt, Nid adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.

24 Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: 25 A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig. 26 A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod: 27 A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr. 28 A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn, y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef: 29 Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

Ac wedi ei ddyfod ef i waered o’r mynydd, torfeydd lawer a’i canlynasant ef. Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i. A’r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd. A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno, A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen ddirfawr. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a’i hiachâf ef. A’r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a’m gwas a iacheir. Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 10 A’r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd: 12 Ond plant y deyrnas a deflir i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 13 A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A’i was a iachawyd yn yr awr honno.

14 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o’r cryd. 15 Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw hi; a’r cryd a’i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.

16 Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â’i air, ac a iachaodd yr holl gleifion; 17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.

18 A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall. 19 A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 20 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. 21 Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 22 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i’r meirw gladdu eu meirw.

23 Ac wedi iddo fyned i’r llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef. 24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu. 25 A’i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom. 26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu dawelwch mawr. 27 A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo!

28 Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o’r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno. 29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser? 30 Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori. 31 A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i’r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd. 33 A’r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig. 34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.