Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Readings for Celebrating Advent

Scripture passages that focus on the meaning of Advent and Christmas.
Duration: 35 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Datguddiad 21:1-7

21 Ac mi a welais nef newydd, a daear newydd: canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aeth heibio; a’r môr nid oedd mwyach. A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o’r nef, wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i’w gŵr. Ac mi a glywais lef uchel allan o’r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt. Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach: oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio. A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna: canys y mae’r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd. I’r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad. Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda bob peth: ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.