Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Aieleth‐hasahar, Salm Dafydd.
22 Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain? 2 Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi. 3 Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel. 4 Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt. 5 Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt. 6 A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl. 7 Pawb a’r a’m gwelant, a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd, 8 Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo. 9 Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam. 10 Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt. 11 Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr. 12 Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant. 13 Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy. 14 Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd. 15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y’m dygaist.
17 Fy anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau sydd barod i mi. 2 Onid oes watwarwyr gyda mi? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt? 3 Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gyda thi: pwy ydyw efe a dery ei law yn fy llaw i? 4 Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni ddyrchefi di hwynt. 5 Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant. 6 Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl, ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt. 7 Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod. 8 Y rhai uniawn a synnant am hyn; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr. 9 Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder. 10 Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi. 11 Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon. 12 Gwnânt y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch. 13 Os disgwyliaf, y bedd sydd dŷ i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely. 14 Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a’m chwaer wyt. 15 A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith? 16 Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.
7 Am hynny, megis y mae’r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, 8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch: 9 Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. 10 Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i: 11 Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i’m gorffwysfa. 12 Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw. 13 Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod. 14 Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd; 15 Tra dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad. 16 Canys rhai, wedi gwrando, a’i digiasant ef: ond nid pawb a’r a ddaethant o’r Aifft trwy Moses. 17 Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch? 18 Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn i’w orffwysfa ef? onid wrth y rhai ni chredasant? 19 Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.