Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd, er coffa.
38 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd. 2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf. 3 Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod. 4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi. 5 Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd. 6 Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus. 7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. 8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon. 9 O’th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt. 10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf. 11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell. 12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd. 13 A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau. 14 Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau. 15 Oherwydd i mi obeithio ynot, Arglwydd; ti, Arglwydd fy Nuw, a wrandewi. 16 Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn. 17 Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad. 18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod. 19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam. 20 A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni. 21 Na ad fi, O Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellha oddi wrthyf. 22 Brysia i’m cymorth, O Arglwydd fy iachawdwriaeth.
18 Ac am hynny y disgwyl yr Arglwydd i drugarhau wrthych, ie, am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych; canys Duw cyfiawnder yw yr Arglwydd. Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho. 19 Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem: gan wylo nid wyli; gan drugarhau efe a drugarha wrthyt; wrth lef dy waedd, pan ei clywo, efe a’th ateb di. 20 A’r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder, ond ni chornelir dy athrawon mwy, eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon: 21 A’th glustiau a glywant air o’th ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy. 22 Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd‐ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, Dos ymaith. 23 Ac efe a rydd law i’th had pan heuech dy dir, a bara cnwd y ddaear, ac efe a fydd yn dew ac yn aml; a’r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid mewn porfa helaeth. 24 Dy ychen hefyd a’th asynnod, y rhai a lafuriant y tir, a borant ebran pur, yr hwn a nithiwyd â gwyntyll ac â gogr. 25 Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau. 26 A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr Arglwydd friw ei bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt.
8 Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed. 9 Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd, 10 A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd. 11 A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom. 12 A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf. 13 Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i’r pyrth, ac a fynasai gyda’r bobl aberthu. 14 A’r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain, 15 A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi’r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynddynt: 16 Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain. 17 Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd. 18 Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.