M’Cheyne Bible Reading Plan
20 Yna holl feibion Israel a aethant allan; a’r gynulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn, o Dan hyd Beerseba, a gwlad Gilead, at yr Arglwydd, i Mispa. 2 A phenaethiaid yr holl bobl, o holl lwythau Israel, a safasant yng nghynulleidfa pobl Dduw; sef pedwar can mil o wŷr traed yn tynnu cleddyf. 3 (A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispa.) Yna meibion Israel a ddywedasant, Dywedwch, pa fodd y bu y drygioni hyn? 4 A’r gŵr y Lefiad, gŵr y wraig a laddesid, a atebodd ac a ddywedodd, I Gibea eiddo Benjamin y deuthum i, mi a’m gordderch, i letya. 5 A gwŷr Gibea a gyfodasant i’m herbyn, ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nos, ac a amcanasant fy lladd i; a threisiasant fy ngordderch, fel y bu hi farw. 6 A mi a ymeflais yn fy ngordderch, ac a’i derniais hi, ac a’i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys gwnaethant ffieidd‐dra ac ynfydrwydd yn Israel. 7 Wele, meibion Israel ydych chwi oll; moeswch rhyngoch air a chyngor yma.
8 A’r holl bobl a gyfododd megis un gŵr, gan ddywedyd, Nac eled neb ohonom i’w babell, ac na throed neb ohonom i’w dŷ. 9 Ond yn awr, hyn yw y peth a wnawn ni i Gibea: Nyni a awn i fyny i’w herbyn wrth goelbren; 10 A ni a gymerwn ddengwr o’r cant trwy holl lwythau Israel, a chant o’r mil, a mil o’r deng mil, i ddwyn lluniaeth i’r bobl; i wneuthur, pan ddelont i Gibea Benjamin, yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnaethant hwy yn Israel. 11 Felly yr ymgasglodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas yn gytûn fel un gŵr.
12 A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi? 13 Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, meibion Belial, y rhai sydd yn Gibea, fel y lladdom hwynt, ac y dileom ddrygioni o Israel. Ond ni wrandawai meibion Benjamin ar lais eu brodyr meibion Israel: 14 Eithr meibion Benjamin a ymgynullasant o’r dinasoedd i Gibea, i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel. 15 A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o’r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf, heblaw trigolion Gibea, y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedig. 16 O’r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedig yn chwithig; pob un ohonynt a ergydiai â charreg at y blewyn, heb fethu. 17 Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd, heblaw Benjamin, yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf; pawb ohonynt yn rhyfelwyr.
18 A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fyny i dŷ Dduw, ac a ymgyngorasant â Duw, ac a ddywedasant, Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i’r gad yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr Arglwydd, Jwda a â yn gyntaf. 19 A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea. 20 A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i’w herbyn hwy wrth Gibea. 21 A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr. 22 A’r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf. 23 (A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr Arglwydd hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd â’r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr Arglwydd, Dos i fyny yn ei erbyn ef.) 24 A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd. 25 A Benjamin a aeth allan o Gibea i’w herbyn hwythau yr ail ddydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr: y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.
26 Yna holl feibion Israel a’r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ Dduw, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd. 27 A meibion Israel a ymgyngorasant â’r Arglwydd, (canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny; 28 A Phinees mab Eleasar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr Arglwydd, Ewch i fyny; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di. 29 Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea. 30 A meibion Israel a aethant i fyny yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibea, fel cynt. 31 A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro rhai o’r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y priffyrdd, o’r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ Dduw, a’r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel. 32 A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o’n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywedasant, Ffown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i’r priffyrdd. 33 A holl wŷr Israel a gyfodasant o’u lle, ac a fyddinasant yn Baal‐tamar: a’r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o’u mangre, sef o weirgloddiau Gibea. 34 A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a’r gad a fu dost: ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt. 35 A’r Arglwydd a drawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o’r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bum mil ar hugain a channwr; a’r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf. 36 Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i’r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea. 37 A’r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a’r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf. 38 Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a’r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o’r ddinas. 39 A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni, fel yn y cyntaf. 40 A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o’r ddinas â cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i’r nefoedd. 41 Yna gwŷr Israel a droesant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: oherwydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt. 42 Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a’r gad a’u goddiweddodd hwynt: a’r rhai a ddaethai o’r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol. 43 Felly yr amgylchynasant y Benjaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul. 44 A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol. 45 A hwy a droesant, ac a ffoesant tua’r anialwch i graig Rimmon. A’r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd, bum mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom, ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr. 46 A’r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bum mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wŷr nerthol. 47 Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i’r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis. 48 A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a’r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.
24 Ac ar ôl pum niwrnod, y daeth Ananeias yr archoffeiriad i waered, a’r henuriaid, ac un Tertwlus, areithiwr; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul. 2 Ac wedi ei alw ef gerbron, Tertwlus a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, 3 Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i’r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym mhob man, yn eu cydnabod, O ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolch. 4 Eithr, fel na rwystrwyf di ymhellach, yr ydwyf yn deisyf arnat, o’th hynawsedd, wrando arnom ar fyr eiriau. 5 Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn bla, ac yn cyfodi terfysg ymysg yr holl Iddewon trwy’r byd, ac yn ben ar sect y Nasareniaid: 6 Yr hwn a amcanodd halogi’r deml: yr hwn hefyd a ddaliasom ni, ac a fynasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni. 7 Eithr Lysias y pen‐capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a’i dug ef allan o’n dwylo ni, 8 Ac a archodd i’w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di: gan yr hwn, wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o’r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno. 9 A’r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly. 10 A Phaul a atebodd, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i’r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun. 11 Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem. 12 Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i’r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas: 13 Ac ni allant brofi’r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o’u plegid. 14 Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a’r proffwydi: 15 A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae’r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i’r cyfiawnion ac i’r anghyfiawnion. 16 Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi‐rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol. 17 Ac ar ôl llawer o flynyddoedd, y deuthum i wneuthur elusennau i’m cenedl, ac offrymau. 18 Ar hynny rhai o’r Iddewon o Asia a’m cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg. 19 Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i’m herbyn. 20 Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor; 21 Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y’m bernir heddiw gennych. 22 Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a’u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i’r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl. 23 Ac efe a archodd i’r canwriad gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac na lesteiriai neb o’r eiddo ef i’w wasanaethu, nac i ddyfod ato. 24 Ac ar ôl talm o ddyddiau, y daeth Ffelix, gyda’i wraig Drusila, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a’i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist. 25 Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a’r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat. 26 A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef. 27 Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix. A Ffelix, yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i’r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.
34 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef, a’r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Dos, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a’i llysg hi â thân: 3 Ac ni ddihengi dithau o’i law ef, canys diau y’th ddelir, ac y’th roddir i’w law ef; a’th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon, a’i enau ef a ymddiddan â’th enau di, a thithau a ei i Babilon. 4 Er hynny, O Sedeceia brenin Jwda, gwrando air yr Arglwydd; Fel hyn y dywed yr Arglwydd amdanat ti, Ni byddi di farw trwy y cleddyf: 5 Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i’th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o’th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr Arglwydd. 6 Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem, 7 Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.
8 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, wedi i’r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â’r holl bobl oedd yn Jerwsalem, am gyhoeddi iddynt ryddid; 9 I ollwng o bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai fyddent Hebread neu Hebrees, yn rhyddion; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt, sef gan ei frawd o Iddew. 10 A phan glybu yr holl benaethiaid, a’r holl bobl y rhai a aethent i’r cyfamod, am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion, fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach, yna hwy a wrandawsant, ac a’u gollyngasant ymaith. 11 Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a’u morynion, y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac a’u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion.
12 Am hynny y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 13 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Mi a wneuthum gyfamod â’ch tadau chwi, y dydd y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed, gan ddywedyd, 14 Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread, yr hwn a werthwyd i ti, ac a’th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt: ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau. 15 A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw, ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg, am gyhoeddi rhyddid bob un i’w gymydog; a chwi a wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i, yn y tŷ y gelwir fy enw arno: 16 Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi. 17 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd, a phob un i’w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn, medd yr Arglwydd, ryddid i’r cleddyf, i’r haint, ac i’r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear. 18 A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, yr hwn a holltasent yn ddau; 19 Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a’r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo; 20 Ie, mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: a’u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. 21 A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon, y rhai a aethant i fyny oddi wrthych. 22 Wele, mi a orchmynnaf, medd yr Arglwydd, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a’i goresgynnant hi, ac a’i llosgant hi â thân: ac mi a wnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd.
I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.
5 Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod. 2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf. 3 Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny. 4 Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi. 5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd. 6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus. 7 A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di. 8 Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen. 9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod. 10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn. 11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot. 12 Canys ti, Arglwydd, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.
I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.
6 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid. 2 Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd. 3 A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd? 4 Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd. 5 Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna? 6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau. 7 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion. 8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain. 9 Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi. 10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.