Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 11

11 Yna Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny, ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead: a holl wŷr Jabes a ddywedasant wrth Nahas, Gwna gyfamod â ni, ac ni a’th wasanaethwn di. A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, Dan yr amod hyn y cyfamodaf â chwi; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi, fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel. A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a’n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti.

A’r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl. A’r holl bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o’r maes. A dywedodd Saul, Beth sydd yn peri i’r bobl wylo? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes. Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a’i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr. Ac efe a gymerth bâr o ychen, ac a’u drylliodd, ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i’w wartheg ef. Ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd. A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain. A hwy a ddywedasant wrth y cenhadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A’r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant. 10 Am hynny gwŷr Jabes a ddywedasant, Yfory y deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda. 11 A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd: a’r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd.

12 A dywedodd y bobl wrth Samuel, Pwy yw yr hwn a ddywedodd, A deyrnasa Saul arnom ni? moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth. 13 A Saul a ddywedodd, Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw, y gwnaeth yr Arglwydd ymwared yn Israel. 14 Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Deuwch, fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddom y frenhiniaeth yno. 15 A’r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gwnaethant Saul yn frenin, gerbron yr Arglwydd yn Gilgal: a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr Arglwydd. A Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel, yn ddirfawr.

Rhufeiniaid 9

Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân, Fod i mi dristyd mawr, a gofid di‐baid i’m calon. Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd: Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw’r mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a’r gwasanaeth, a’r addewidion; Eiddo y rhai yw’r tadau; ac o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym: canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel. Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had. Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara. 10 Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o’n tad Isaac; 11 (Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd yn galw;) 12 Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf. 13 Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais. 14 Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw. 15 Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. 16 Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau. 17 Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y’th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear. 18 Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a’r neb y mynno y mae efe yn ei galedu. 19 Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef? 20 Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fel hyn? 21 Onid oes awdurdod i’r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o’r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amarch? 22 Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth: 23 Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant, 24 Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o’r Iddewon yn unig, eithr hefyd o’r Cenhedloedd? 25 Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi; a’r hon nid yw annwyl, yn annwyl. 26 A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y gelwir hwy yn feibion i’r Duw byw. 27 Hefyd y mae Eseias yn llefain am yr Israel, Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir. 28 Canys efe a orffen ac a gwtoga’r gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byr waith a wna’r Arglwydd ar y ddaear. 29 Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen, Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had, megis Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra. 30 Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd: 31 Ac Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder. 32 Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd; 33 Megis y mae yn ysgrifenedig, Wele fi yn gosod yn Seion faen tramgwydd, a chraig rhwystr: a phob un a gredo ynddo ni chywilyddir.

Jeremeia 48

48 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yn erbyn Moab; Gwae Nebo! canys hi a anrheithiwyd: gwaradwyddwyd Ciriathaim, ac enillwyd hi; Misgab a waradwyddwyd, ac a ddychrynwyd. Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i’w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a’th erlid. Llef yn gweiddi a glywir o Horonaim; anrhaith, a dinistr mawr. Moab a ddistrywiwyd; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd. Canys yn rhiw Luhith, galar a â i fyny mewn wylofain, ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr. Ffowch, achubwch eich einioes; a byddwch fel y grug yn yr anialwch.

Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a’th drysorau dy hun, tithau a ddelir: Cemos hefyd a â allan i gaethiwed, a’i offeiriaid a’i dywysogion ynghyd. A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a’r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr Arglwydd. Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt. 10 Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus, a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed.

11 Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwaddod, ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei blas arni, ac ni newidiodd ei harogl. 12 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a’i mudant hi, ac a wacânt ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau. 13 A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt.

14 Pa fodd y dywedwch chwi, Cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel? 15 Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o’i dinasoedd, a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa, medd y Brenin, a’i enw Arglwydd y lluoedd. 16 Agos yw dinistr Moab i ddyfod, a’i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest. 17 Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o’i hamgylch; a phawb a’r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a’r wialen hardd! 18 O breswylferch Dibon, disgyn o’th ogoniant, ac eistedd mewn syched; canys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd. 19 Preswylferch Aroer, saf ar y ffordd, a gwylia; gofyn i’r hwn a fyddo yn ffoi, ac i’r hwn a ddihango, a dywed, Beth a ddarfu? 20 Gwaradwyddwyd Moab, canys hi a ddinistriwyd: udwch, a gwaeddwch; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab; 21 A barn a ddaw ar y tir gwastad, ar Holon, ac ar Jahasa, ac ar Meffaath, 22 Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Beth‐diblathaim, 23 Ac ar Ciriathaim, ac ar Beth‐gamul, ac ar Beth‐meon. 24 Ac ar Cerioth, ac ar Bosra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos. 25 Corn Moab a ysgythrwyd, a’i braich hi a dorrwyd, medd yr Arglwydd.

26 Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd. 27 Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti? a gafwyd ef ymysg lladron? canys er pan soniaist amdano, yr ymgynhyrfaist. 28 Trigolion Moab, gadewch y dinasoedd, ac arhoswch yn y graig, a byddwch megis colomen yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twll. 29 Nyni a glywsom falchder Moab, (y mae hi yn falch iawn,) ei huchder, ei rhyfyg, a’i hymchwydd, ac uchder ei chalon. 30 Myfi a adwaen ei llid hi, medd yr Arglwydd; ond nid felly y bydd; ei chelwyddau hi ni wnânt felly. 31 Am hynny yr udaf fi dros Moab, ac y gwaeddaf dros holl Moab: fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir‐heres. 32 Myfi a wylaf drosot ti, gwinwydden Sibma, ag wylofain Jaser; dy gangau a aethant dros y môr, hyd fôr Jaser y cyrhaeddant: yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf gwin. 33 A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o’r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest. 34 O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd. 35 Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a’r hwn sydd yn arogldarthu i’w dduwiau. 36 Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir‐heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd. 37 Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain. 38 Ar holl bennau tai Moab, a’i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr Arglwydd. 39 Hwy a udant, gan ddywedyd, Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o’i hamgylch. 40 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, efe a eheda fel eryr, ac a leda ei adenydd dros Moab. 41 Y dinasoedd a oresgynnir, a’r amddiffynfeydd a enillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor. 42 A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd. 43 Ofn, a ffos, a magl a ddaw arnat ti, trigiannol Moab, medd yr Arglwydd. 44 Y neb a ffy rhag yr ofn, a syrth yn y ffos; a’r hwn a gyfyd o’r ffos, a ddelir yn y fagl: canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr Arglwydd. 45 Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid: eithr tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a ysa gongl Moab, a chorun y meibion trystfawr. 46 Gwae di, Moab! darfu am bobl Cemos: canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion, a’th ferched yn gaethion.

47 Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf, medd yr Arglwydd. Hyd yma y mae barn Moab.

Salmau 25

Salm Dafydd.

25 Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf. Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos. Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau. Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd. Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy. Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd. Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd. Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig. 10 Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef. 11 Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddau fy anwiredd: canys mawr yw. 12 Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r Arglwydd? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso. 13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a’i had a etifedda y ddaear. 14 Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt. 15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd. 16 Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf. 17 Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau. 18 Gwêl fy nghystudd a’m helbul, a maddau fy holl bechodau. 19 Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant. 20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot. 21 Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthyt. 22 O Dduw, gwared Israel o’i holl gyfyngderau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.