Historical
4 Aphan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant. 2 A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin: 3 A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.) 4 Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o’i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef oedd Meffiboseth. 5 A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd. 6 Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant. 7 A phan ddaethant i’r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a’i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef; ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos. 8 A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a’r Arglwydd a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had.
9 A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimon y Beerothiad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra, 10 Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a’i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl: 11 Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear? 12 A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau; a hwy a’u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed, ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a’i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron.
5 Yna holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni. 2 Cyn hyn hefyd, pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel. 3 Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.
4 Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe. 5 Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda.
6 A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma. 7 Ond Dafydd a enillodd amddiffynfa Seion: honno yw dinas Dafydd. 8 A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter, ac a drawo’r Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ. 9 A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn. 10 A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac Arglwydd Dduw y lluoedd oedd gydag ef.
11 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd. 12 A gwybu Dafydd i’r Arglwydd ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.
13 A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched. 14 A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon, 15 Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia, 16 Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet.
17 Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i’r amddiffynfa. 18 A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim. 19 A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di. 20 A Dafydd a ddaeth i Baal‐perasim; a Dafydd a’u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr Arglwydd a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal‐perasim. 21 Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt.
22 A’r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim. 23 A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fyny: amgylchyna o’r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd. 24 A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr Arglwydd a â allan o’th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid. 25 A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr Arglwydd iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser.
6 A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar hugain. 2 A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid. 3 A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd; ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd. 4 A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch. 5 Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.
6 A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd. 7 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw. 8 A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn. 9 A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi? 10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad. 11 Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis: a’r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom, a’i holl dŷ.
12 A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed‐Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd. 13 A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr Arglwydd chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion. 14 A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr Arglwydd; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain. 15 Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd, trwy floddest, a sain utgorn. 16 Ac fel yr oedd arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr Arglwydd; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.
17 A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd. 18 Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd. 19 Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun.
20 Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg. 21 A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr Arglwydd, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr Arglwydd, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr Arglwydd. 22 Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir. 23 Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.