Chronological
18 Adywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a’th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth. 2 A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i’th wasanaethu: tithau a’th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth. 3 A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd. 4 Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch. 5 Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel. 6 Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod. 7 Tithau a’th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.
8 A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i’th feibion, trwy ddeddf dragwyddol. 9 Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl fwyd‐offrwm, a’u holl aberthau dros bechod, a’u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i’th feibion. 10 O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a’i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti. 11 Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono. 12 Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd, a roddais i ti. 13 Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono. 14 Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti. 15 Pob peth a agoro’r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i’r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn; a phrŷn y cyntaf‐anedig i’r anifail aflan. 16 A phâr brynu y rhai a bryner ohonot o fab misyriad, yn dy bris di, er pum sicl o arian, wrth sicl y cysegr: ugain gera yw hynny. 17 Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion, neu gyntaf‐anedig dafad, neu gyntaf‐anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a’u gwêr a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 18 Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddeau, y mae yn eiddot ti. 19 Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i’r Arglwydd, a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr Arglwydd, i ti, ac i’th had gyda thi.
20 A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a’th etifeddiaeth, ymysg meibion Israel. 21 Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod. 22 Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw. 23 Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel. 24 Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
25 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 26 Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, sef degwm o’r degwm. 27 A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o’r ysgubor, ac fel cyflawnder o’r gwinwryf. 28 Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, o’ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad. 29 O’ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob gorau ohono, sef y rhan gysegredig, allan ohono ef. 30 A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono, cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwinwryf. 31 A bwytewch ef ym mhob lle, chwi a’ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. 32 Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.
19 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd. 2 Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith‐gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni. 3 A rhoddwch hi at Eleasar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef. 4 A chymered Eleasar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith. 5 A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd â’i biswail, a lysg efe. 6 A chymered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner. 7 A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr. 8 Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr. 9 A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neilltuaeth pech‐aberth yw. 10 A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragwyddol.
11 A gyffyrddo â chorff marw dyn, aflan fydd saith niwrnod. 12 Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd. 13 Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd eto arno. 14 Dyma’r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod. 15 A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe. 16 Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, ag un wedi ei ladd â chleddyf, neu ag un marw, neu ag asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod. 17 Cymerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder ato ddwfr rhedegog mewn llestr; 18 A chymered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd ag asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd: 19 A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac ymlanhaed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr. 20 Ond y gŵr a haloger, ac nid ymlanhao torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynulleidfa: canys efe a halogodd gysegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y neilltuaeth; aflan yw efe. 21 A bydd iddynt yn ddeddf dragwyddol bod i’r hwn a daenello ddwfr y neilltuaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neilltuaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr. 22 A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan ag ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo â hynny, fydd aflan hyd yr hwyr.
20 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi. 2 Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron. 3 Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd! 4 Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn, i farw ohonom ni a’n hanifeiliaid ynddo? 5 A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i’w yfed? 6 A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
7 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 8 Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid. 9 A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo. 10 A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr? 11 A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â’i wialen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.
12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt. 13 Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.
14 A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni: 15 Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aifft, ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Eifftiaid ni, a’n tadau. 16 A ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aifft: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwr dy ardal di. 17 Atolwg, gad i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o’th derfynau di. 18 A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod. 19 A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y briffordd yr awn i fyny; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed. 20 Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, â phobl lawer, ac â llaw gref. 21 Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.
22 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor. 23 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd, 24 Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i’m gair, wrth ddwfr Meriba. 25 Cymer Aaron ac Eleasar ei fab, a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor; 26 A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno. 27 A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynulleidfa. 28 A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef: a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynnodd Moses ac Eleasar o’r mynydd. 29 A’r holl gynulleidfa a welsant farw Aaron; a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.