Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Beginning

Read the Bible from start to finish, from Genesis to Revelation.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Datguddiad 13-16

13 Ac mi a sefais ar dywod y môr; ac a welais fwystfil yn codi o’r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau enw cabledd. A’r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew: a’r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a’i gorseddfainc, ac awdurdod mawr. Ac mi a welais un o’i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw; a’i friw marwol ef a iachawyd: a’r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil. A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i’r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i’r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef? A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain. Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a’i dabernacl, a’r rhai sydd yn trigo yn y nef. A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â’r saint, a’u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith, a chenedl. A holl drigolion y ddaear a’i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd. Od oes gan neb glust, gwrandawed. 10 Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Dyma amynedd a ffydd y saint. 11 Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o’r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig. 12 A holl allu’r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i’r ddaear ac i’r rhai sydd yn trigo ynddi addoli’r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol. 13 Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o’r nef i’r ddaear, yng ngolwg dynion; 14 Ac y mae efe yn twyllo’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, trwy’r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear, am iddynt wneuthur delw i’r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw. 15 A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw’r bwystfil, fel y llefarai delw’r bwystfil hefyd, ac y parai gael o’r sawl nid addolent ddelw’r bwystfil, eu lladd. 16 Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau: 17 Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw ef. 18 Yma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi’r bwystfil: canys rhifedi dyn ydyw: a’i rifedi ef yw, Chwe chant a thrigain a chwech.

14 Ac mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef bedair mil a saith ugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau. Ac mi a glywais lef o’r nef, fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taran fawr: ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau: A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc, a cherbron y pedwar anifail, a’r henuriaid: ac ni allodd neb ddysgu’r gân, ond y pedair mil a’r saith ugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear. Y rhai hyn yw’r rhai ni halogwyd â gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen. Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw. Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, a’r efengyl dragwyddol ganddo, i efengylu i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl: Gan ddywedyd â llef uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; oblegid daeth awr ei farn ef: ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a’r ddaear, a’r môr, a’r ffynhonnau dyfroedd. Ac angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb. A’r trydydd angel a’u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a’i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law, 10 Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen: 11 A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli’r bwystfil a’i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef. 12 Yma y mae amynedd y saint: yma y mae’r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, a ffydd Iesu. 13 Ac mi a glywais lef o’r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur; a’u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt. 14 Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym. 15 Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear. 16 A’r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear; a’r ddaear a fedwyd. 17 Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman llym. 18 Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân; ac a lefodd â bloedd uchel ar yr hwn oedd â’r cryman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy gryman llym, a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear: oblegid aeddfedodd ei grawn hi. 19 A’r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a’i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw. 20 A’r gerwyn a sathrwyd o’r tu allan i’r ddinas; a gwaed a ddaeth allan o’r gerwyn, hyd at ffrwynau’r meirch, ar hyd mil a chwe chant o ystadau.

15 Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw. Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a’r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nod ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt. A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen; gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint. Pwy ni’th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd. Ac ar ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored: A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o’r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur. Ac un o’r pedwar anifail a roddodd i’r saith angel saith ffiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd. A llanwyd y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml, nes darfod cyflawni saith bla’r saith angel.

16 Ac mi a glywais lef uchel allan o’r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch ymaith, a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear. A’r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt, a’r rhai a addolasent ei ddelw ef. A’r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw: a phob enaid byw a fu farw yn y môr. A’r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd; a hwy a aethant yn waed. Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, O Arglwydd, ydwyt ti, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn a fyddi; oblegid barnu ohonot y pethau hyn. Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i’w yfed; canys y maent yn ei haeddu. Ac mi a glywais un arall allan o’r allor yn dywedyd, Ie, Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di. A’r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân. A phoethwyd y dynion â gwres mawr; a hwy a gablasant enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn: ac nid edifarhasant, i roi gogoniant iddo ef. 10 A’r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; a’i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid, 11 Ac a gablasant Dduw’r nef, oherwydd eu poenau, ac oherwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd. 12 A’r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates; a sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain. 13 Ac mi a welais dri ysbryd aflan tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau’r gau broffwyd. 14 Canys ysbrydion cythreuliaid, yn gwneuthur gwyrthiau, ydynt, y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear, a’r holl fyd, i’w casglu hwy i ryfel y dydd hwnnw, dydd mawr Duw Hollalluog. 15 Wele, yr wyf fi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef. 16 Ac efe a’u casglodd hwynt ynghyd i le a elwir yn Hebraeg, Armagedon. 17 A’r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i’r awyr; a daeth llef uchel allan o deml y nef, oddi wrth yr orseddfainc, yn dywedyd, Darfu. 18 Ac yr oedd lleisiau a tharanau, a mellt; ac yr oedd daeargryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear, cymaint daeargryn, ac mor fawr. 19 A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw, i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef. 20 A phob ynys a ffodd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd. 21 A chenllysg mawr, fel talentau, a syrthiasant o’r nef ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am bla’r cenllysg: oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.