Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Beginning

Read the Bible from start to finish, from Genesis to Revelation.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Pregethwr 5-8

Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg. Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw: canys Duw sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml. Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau. Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl. Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu. Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai Duw wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo? Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di Dduw.

Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na’r uchaf yn gwylied; ac y mae un sydd uwch na hwynt.

Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw. 10 Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na’r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd. 11 Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i’w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i’w perchennog, ond eu gweled â’u llygaid? 12 Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu. 13 Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog. 14 Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef. 15 Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o’i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law. 16 A hyn hefyd sydd ofid blin; yn hollol y modd y daeth, felly yr â efe ymaith: a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt? 17 Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn dicter mawr, gofid, a llid.

18 Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef. 19 Ie, i bwy bynnag y rhoddes Duw gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn. 20 Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd; am fod Duw yn ateb i lawenydd ei galon ef.

Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion: Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.

Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef. Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch. Yntau ni welodd mo’r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall.

Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i’r un lle yr â pawb? Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef. Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?

Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. 10 Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef.

11 Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well? 12 Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?

Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth.

Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a’r byw a’i gesyd at ei galon. Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon. Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd. Gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid. Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain dan grochan. Dyma wagedd hefyd.

Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth, a rhodd a ddifetha y galon. Gwell yw diweddiad peth na’i ddechreuad: gwell yw y dioddefgar o ysbryd na’r balch o ysbryd. Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio: oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid. 10 Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o’r blaen yn well na’r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.

11 Da yw doethineb gydag etifeddiaeth: ac o hynny y mae elw i’r rhai sydd yn gweled yr haul. 12 Canys cysgod yw doethineb, a chysgod yw arian: ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i’w pherchennog. 13 Edrych ar orchwyl Duw: canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe? 14 Yn amser gwynfyd bydd lawen; ond yn amser adfyd ystyria: Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall, er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef. 15 Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd: y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder, ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni. 16 Na fydd ry gyfiawn; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth: paham y’th ddifethit dy hun? 17 Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffôl: paham y byddit farw cyn dy amser? 18 Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno Dduw, a ddaw allan ohonynt oll. 19 Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas. 20 Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha. 21 Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio. 22 Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon, ddarfod i ti dy hun felltithio eraill.

23 Hyn oll a brofais trwy ddoethineb: mi a ddywedais, Mi a fyddaf ddoeth; a hithau ymhell oddi wrthyf. 24 Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a’i caiff? 25 Mi a droais â’m calon i wybod, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb, sef ffolineb ac ynfydrwydd: 26 Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a’i dwylo yn rhwymau: y neb sydd dda gan Dduw, a waredir oddi wrthi hi; ond pechadur a ddelir ganddi. 27 Wele, hyn a gefais, medd y Pregethwr, wrth chwilio o’r naill beth i’r llall, i gael y rheswm; 28 Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano, ac ni chefais: un gŵr a gefais ymhlith mil; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais. 29 Wele, hyn yn unig a gefais; wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion.

Pwy sydd debyg i’r doeth? a phwy a fedr ddeongl peth? doethineb gŵr a lewyrcha ei wyneb, a nerth ei wyneb ef a newidir. Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y brenin, a hynny oherwydd llw Duw. Na ddos ar frys allan o’i olwg ef; na saf mewn peth drwg: canys efe a wna a fynno ei hun. Lle y byddo gair y brenin, y mae gallu: a phwy a ddywed wrtho, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur? Y neb a gadwo y gorchymyn, ni wybydd oddi wrth ddrwg; a chalon y doeth a edwyn amser a barn.

Canys y mae amser a barn i bob amcan; ac y mae trueni dyn yn fawr arno. Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd? Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog. Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul: y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo. 10 Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly. Gwagedd yw hyn hefyd. 11 Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg.

12 Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith, ac estyn ei ddyddiau ef; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i’r rhai a ofnant Dduw, y rhai a arswydant ger ei fron ef. 13 Ond ni bydd daioni i’r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau, y rhai sydd gyffelyb i gysgod; am nad yw yn ofni gerbron Duw. 14 Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear; bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn. Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd. 15 Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o’i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo dan yr haul.

16 Pan osodais i fy nghalon i wybod doethineb, ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaear, (canys y mae ni wêl hun â’i lygaid na dydd na nos;) 17 Yna mi a edrychais ar holl waith Duw, na ddichon dyn ddeall y gwaith a wneir dan haul: oblegid er i ddyn lafurio i geisio, eto nis caiff; ie, pe meddyliai y doeth fynnu gwybod, eto ni allai efe gael hynny.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.