Beginning
I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth.
46 Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. 2 Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr: 3 Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela. 4 Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw; cysegr preswylfeydd y Goruchaf. 5 Duw sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: Duw a’i cynorthwya yn fore iawn. 6 Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear. 7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; y mae Duw Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela. 8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd; pa anghyfanhedd‐dra a wnaeth efe ar y ddaear. 9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân. 10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear. 11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob. Sela.
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
47 Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd. 2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear. 3 Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed. 4 Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela. 5 Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn. 6 Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch. 7 Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus. 8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd. 9 Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw: dirfawr y dyrchafwyd ef.
Cân a Salm i feibion Cora.
48 Mawr yw yr Arglwydd, a thra moliannus, yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd. 2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr. 3 Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa. 4 Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd. 5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst. 6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor. 7 Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr. 8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela. 9 Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd yng nghanol dy deml. 10 Megis y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw. 11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau. 12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. 13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. 14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
49 Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd: 2 Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd. 3 Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall. 4 Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn. 5 Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau? 6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth. 7 Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw: 8 (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:) 9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth. 10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill. 11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain. 12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir. 13 Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela. 14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref. 15 Eto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela. 16 Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef: 17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef. 18 Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun. 19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth. 20 Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.
Salm Asaff.
50 Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. 2 Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw. 3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. 4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. 5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. 6 A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela. 7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. 8 Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. 9 Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. 10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd. 11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. 12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi. 13 A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? 14 Abertha foliant i Dduw; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: 15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi. 16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? 17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. 18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. 19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. 20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. 21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. 22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.