Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Beginning

Read the Bible from start to finish, from Genesis to Revelation.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Cronicl 18-20

18 Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab. Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria. Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer, iddo ef ac i’r bobl oedd gydag ef, ac a’i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-Gilead. Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead? Yntau a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a’m pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel.

Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr Arglwydd. Am hynny brenin Israel a gasglodd o’r proffwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A awn ni yn erbyn Ramoth-Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys Duw a’i dyry yn llaw y brenin. Ond Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r Arglwydd eto mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef? A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r Arglwydd: ond y mae yn gas gennyf fi ef: canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni, ond drygioni erioed: efe yw Michea mab Imla. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly. A brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura Michea mab Imla. A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt. 10 A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn, ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt. 11 A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth-Gilead, a ffynna: canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin. 12 A’r gennad a aethai i alw Michea, a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded gan hynny, atolwg, dy air dithau fel un o’r rhai hynny, a dywed y gorau. 13 A Michea a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hyn a ddywedo fy Nuw, hynny a lefaraf fi. 14 A phan ddaeth efe at y brenin, y brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-Gilead, neu a beidiaf fi? Dywedodd yntau, Ewch i fyny, a ffynnwch, a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi. 15 A’r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw, yr Arglwydd? 16 Yna efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr Arglwydd, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn tangnefedd. 17 (A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt, na phroffwydai efe ddaioni i mi, ond drygioni?) 18 Yntau a ddywedodd, Gan hynny gwrando air yr Arglwydd: Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll ar ei ddeheulaw, ac ar ei law aswy. 19 A dywedodd yr Arglwydd, Pwy a dwylla Ahab brenin Israel, fel yr elo efe i fyny, ac y syrthio yn Ramoth-Gilead? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn, ac arall gan ddywedyd fel hyn. 20 Yna ysbryd a aeth allan, ac a safodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Myfi a’i twyllaf ef. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pa fodd? 21 Dywedodd yntau, Myfi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. A dywedodd yr Arglwydd, Twylli, a gorchfygi: dos allan, a gwna felly. 22 Ac yn awr wele, yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; a’r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti. 23 Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi? 24 A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio. 25 A brenin Israel a ddywedodd, Cymerwch Michea, a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin; 26 A dywedwch, Fel hyn y dywedodd y brenin, Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch. 27 Yna y dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi. Efe a ddywedodd hefyd, Gwrandewch hyn, yr holl bobl. 28 Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-Gilead. 29 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad. Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i’r rhyfel. 30 A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig. 31 A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Jehosaffat a waeddodd, a’r Arglwydd a’i cynorthwyodd ef, a Duw a’u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef. 32 A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. 33 A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r gad; canys fe’m clwyfwyd i. 34 A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid hyd yr hwyr: ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul.

19 A Jehosaffat brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch. A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o’i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casáu yr Arglwydd, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr Arglwydd sydd arnat ti. Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o’r wlad, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw. A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem: ac efe a aeth drachefn trwy’r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a’u dug hwynt eilwaith at Arglwydd Dduw eu tadau.

Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd; Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn. Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda’r Arglwydd ein Duw, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr.

A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o’r Lefiaid, ac o’r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr Arglwydd, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem. Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith. 10 A pha amrafael bynnag a ddêl atoch chwi oddi wrth eich brodyr, y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr Arglwydd, a bod digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch ac na throseddwch. 11 Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i’r Arglwydd; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i’r brenin; a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a’r Arglwydd fydd gyda’r daionus.

20 Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel. Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o’r tu hwnt i’r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar, honno yw En-gedi. A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda. A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr Arglwydd: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio’r Arglwydd.

A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhŷ yr Arglwydd, o flaen y cyntedd newydd, Ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw ein tadau, onid wyt ti yn Dduw yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di? Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bobl Israel, ac a’i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd? A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i’th enw, gan ddywedyd, Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni. 10 Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt, pan ddaethant o wlad yr Aifft; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt: 11 Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni, gan ddyfod i’n bwrw ni allan o’th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu. 12 O ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid. 13 A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd, â’u rhai bach, eu gwragedd, a’u plant.

14 Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa. 15 Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo Dduw. 16 Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a’u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel. 17 Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr Arglwydd tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a’r Arglwydd fydd gyda chwi. 18 A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb: holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr Arglwydd, gan addoli yr Arglwydd. 19 A’r Lefiaid, o feibion y Cohathiaid, ac o feibion y Corhiaid, a gyfodasant i foliannu Arglwydd Dduw Israel â llef uchel ddyrchafedig.

20 A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddywedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr Arglwydd eich Duw, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch. 21 Ac efe a ymgynghorodd â’r bobl, ac a osododd gantorion i’r Arglwydd, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr Arglwydd, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

22 Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a’r moliant, y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd. 23 Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i’w difrodi, ac i’w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd. 24 A phan ddaeth Jwda hyd Mispa yn yr anialwch, hwy a edrychasant ar y dyrfa, ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon yn gorwedd ar y ddaear, ac heb un dihangol. 25 A phan ddaeth Jehosaffat a’i bobl i ysglyfaethu eu hysbail hwynt, hwy a gawsant yn eu mysg hwy lawer o olud, gyda’r cyrff meirw, a thlysau dymunol, yr hyn a ysglyfaethasant iddynt, beth anfeidrol: a thridiau y buant yn ysglyfaethu yr ysbail; canys mawr oedd.

26 Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith; canys yno y bendithiasant yr Arglwydd: am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith, hyd heddiw. 27 Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem, a Jehosaffat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd; canys yr Arglwydd a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion. 28 A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau, a thelynau, ac utgyrn, i dŷ yr Arglwydd. 29 Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear, pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr Arglwydd yn erbyn gelynion Israel. 30 Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd: canys ei Dduw a roddodd iddo lonyddwch o amgylch.

31 A Jehosaffat a deyrnasodd ar Jwda: mab pymtheng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Asuba merch Silhi. 32 Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dad, ac ni chiliodd oddi wrthi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd. 33 Er hynny ni thynnwyd yr uchelfeydd ymaith: canys ni pharatoesai y bobl eu calon eto at Dduw eu tadau. 34 A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Jehosaffat, wele hwy yn ysgrifenedig ymysg geiriau Jehu mab Hanani, yr hwn y crybwyllir amdano yn llyfr brenhinoedd Israel.

35 Ac wedi hyn Jehosaffat brenin Jwda a ymgyfeillodd ag Ahaseia brenin Israel, yr hwn a ymroddasai i ddrygioni. 36 Ac efe a unodd ag ef ar wneuthur llongau i fyned i Tarsis: a gwnaethant y llongau yn Esion-gaber. 37 Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat, gan ddywedyd, Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia, yr Arglwydd a ddrylliodd dy waith di. A’r llongau a ddrylliwyd, fel na allasant fyned i Tarsis.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.