Beginning
12 A dyma y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag, ac efe eto yn cadw arno rhag Saul mab Cis: a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn, cynorthwywyr y rhyfel, 2 Yn arfogion â bwâu, yn medru o ddeau ac o aswy daflu â cherrig, a saethu mewn bwâu: o frodyr Saul, o Benjamin. 3 Y pennaf oedd Ahieser, yna Joas, meibion Semaa y Gibeathiad, a Jesiel a Phelet meibion Asmafeth, a Beracha, a Jehu yr Anthothiad, 4 Ac Ismaia y Gibeoniad, grymus oedd efe ymhlith y deg ar hugain, a goruwch y deg ar hugain; Jeremeia hefyd, a Jehasiel, a Johanan, a Josabad y Gederathiad, 5 Elusai, a Jerimoth, a Bealeia, a Semareia, Seffatia yr Haruffiad. 6 Elcana, a Jeseia, ac Asareel, a Joeser, a Jasobeam, y Corhiaid, 7 A Joela, a Sebadeia, meibion Jeroham o Gedor. 8 A rhai o’r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i’r amddiffynfa i’r anialwch, yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac megis iyrchod ar y mynyddoedd o fuander oeddynt hwy. 9 Eser y cyntaf, Obadeia yr ail, Eliab y trydydd, 10 Mismanna y pedwerydd, Jeremeia y pumed, 11 Attai y chweched, Eliel y seithfed, 12 Johanan yr wythfed, Elsabad y nawfed, 13 Jeremeia y degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg. 14 Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a’r mwyaf ar fil. 15 Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua’r dwyrain, a thua’r gorllewin. 16 A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i’r amddiffynfa at Dafydd. 17 A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un â chwi: ond os i’m bradychu i’m gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo. 18 A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i’th gynorthwywyr; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt, ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin. 19 A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda’r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, wrth gyngor, a’i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni. 20 Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a Michael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse. 21 A’r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu. 22 Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i’w gynorthwyo ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.
23 A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr Arglwydd. 24 O feibion Jwda, yn dwyn tarian a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yn arfog i ryfel. 25 O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant. 26 O feibion Lefi, pedair mil a chwe chant. 27 A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant. 28 Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gapteiniaid. 29 Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul. 30 Ac o feibion Effraim, ugain mil ac wyth cant, yn rymus nerthol, yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau. 31 Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysbysasid erbyn eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin. 32 Ac o feibion Issachar, y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur, eu penaethiaid hwynt oedd ddeucant, a’u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt. 33 O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon. 34 Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, â tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain. 35 Ac o’r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela. 36 Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela. 37 Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o’r Reubeniaid, ac o’r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel. 38 Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a’r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin. 39 A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys eu brodyr a arlwyasant iddynt hwy. 40 A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.
13 A Dafydd a ymgynghorodd â chapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac â’r holl dywysogion. 2 A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a bod hyn o’r Arglwydd ein Duw, danfonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pentrefol, i’w cynnull hwynt atom ni. 3 A dygwn drachefn arch ein Duw atom ni; canys nid ymofynasom â hi yn nyddiau Saul. 4 A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl. 5 Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd, o Sihor yr Aifft, hyd y ffordd y delir i Hamath, i ddwyn arch Duw o Ciriath‐jearim. 6 A Dafydd a aeth i fyny, a holl Israel, i Baala, sef Ciriath‐jearim, yr hon sydd yn Jwda, i ddwyn oddi yno arch yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn preswylio rhwng y ceriwbiaid, ar yr hon y gelwir ei enw ef. 7 A hwy a ddygasant arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab: ac Ussa ac Ahïo oedd yn gyrru y fen. 8 A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, â’u holl nerth, ac â chaniadau, ac â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac â symbalau, ac ag utgyrn.
9 A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd hi. 10 Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Ussa, ac efe a’i lladdodd ef, oblegid iddo estyn ei law at yr arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw. 11 A bu ddrwg gan Dafydd am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐ussa, hyd y dydd hwn. 12 A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi? 13 Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a’i cludodd hi i dŷ Obed‐edom y Gethiad. 14 Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obed‐edom, yn ei dŷ ef, dri mis. A’r Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐edom, a’r hyn oll ydoedd eiddo.
14 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ. 2 A gwybu Dafydd sicrhau o’r Arglwydd ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.
3 A chymerth Dafydd wragedd ychwaneg yn Jerwsalem: a Dafydd a genhedlodd feibion ychwaneg, a merched. 4 A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon, 5 Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet, 6 A Noga, a Neffeg, a Jaffa, 7 Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.
8 A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt. 9 A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim. 10 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di. 11 Felly yr aethant i fyny i Baal‐perasim, a Dafydd a’u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal‐perasim. 12 A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân. 13 A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn. 14 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd. 15 A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o’th flaen di, i daro llu y Philistiaid. 16 A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser. 17 Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wledydd; a’r Arglwydd a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.