Add parallel Print Page Options

38 A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod ohono i ryw dref: a rhyw wraig, a’i henw Martha, a’i derbyniodd ef i’w thŷ. 39 Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef. 40 Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio. 41 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau: 42 Eithr un peth sydd angenrheidiol: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.

Read full chapter

11 Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha.

Read full chapter

A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus.

Read full chapter

19 A llawer o’r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd. 20 Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ. 21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. 22 Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti. 23 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn. 24 Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf. 25 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: 26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn? 27 Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i’r byd. 28 Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat.

Read full chapter

30 (A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.)

Read full chapter

38 Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno. 39 Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod. 40 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw?

Read full chapter

Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef.

Read full chapter