Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Finding your way around? See how the new Bible Gateway works. Take the tour.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
One verse. Every morning. Sign up.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Ioan 12  Beibl William Morgan

12 Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw. 2 Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef. 3 Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint. 4 Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, 5 Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a’i roddi i’r tlodion? 6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo’r pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo. 7 A’r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn. 8 Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser. 9 Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.

10 Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd: 11 Oblegid llawer o’r Iddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.

12 Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r ŵyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem, 13 A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. 14 A’r Iesu wedi cael asynnyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig, 15 Nac ofna, ferch Seion: wele, y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn. 16 Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt wneuthur hyn iddo. 17 Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw. 18 Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn. 19 Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.

20 Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl: 21 Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu. 22 Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu.

23 A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn. 24 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer. 25 Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol. 26 Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a’i hanrhydedda ef. 27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon. 28 O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn. 29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho. 30 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o’m hachos i y bu’r llef hon, ond o’ch achos chwi. 31 Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn. 32 A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun. 33 (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.) 34 Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn? 35 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae’n myned. 36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.

37 Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo: 38 Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn, 40 Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt. 41 Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.

42 Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog: 43 Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.

44 A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. 45 A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. 46 Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. 47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. 48 Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. 49 Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 50 Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.

Next
Ioan 11
Ioan 13
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway