Add parallel Print Page Options

Dyma yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft: gyda Jacob y daethant, bob un a’i deulu. Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, Sabulon, a Benjamin, Dan, a Nafftali, Gad, ac Aser. A’r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft. A Joseff a fu farw, a’i holl frodyr, a’r holl genhedlaeth honno.

A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth; a’r wlad a lanwyd ohonynt. Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn nid adnabuasai mo Joseff. Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni. 10 Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt; rhag amlhau ohonynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgysylltu ohonynt â’n caseion, a rhyfela i’n herbyn, a myned i fyny o’r wlad. 11 Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith, i’w gorthrymu â’u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses. 12 Ond fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent: a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel. 13 A’r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed. 14 A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy’r gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed. 15 A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua: 16 Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw. 17 Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw. 18 Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw? 19 A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt. 20 Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn. 21 Ac oherwydd i’r bydwragedd ofni Duw, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau. 22 A Pharo a orchmynnodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.

Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi. A’r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a’i cuddiodd ef dri mis. A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a’i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon. A’i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.

A merch Pharo a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi; (a’i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu’r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i’w gyrchu ef. Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu’r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn. Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o’r Hebreësau, fel y mago hi y bachgen i ti? A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A’r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen. A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A’r wraig a gymerodd y bachgen, ac a’i magodd. 10 Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a’i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; Oherwydd (eb hi) o’r dwfr y tynnais ef.

11 A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned ohono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr, un o’i frodyr.

Read full chapter

20 Ac Amram a gymerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd.

Read full chapter

59 Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt.

Read full chapter