Add parallel Print Page Options

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyr efe hwynt o’i wlad. Duw hefyd a lefarodd wrth Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH. A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw Duw Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt. Hefyd mi a sicrheais fy nghyfamod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi. A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Eifftiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfamod. Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid, ac a’ch rhyddhaf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion. Hefyd mi a’ch cymeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid. A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.

A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled. 10 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 11 Dos i mewn; dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad. 12 A Moses a lefarodd gerbron yr Arglwydd, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y’m gwrandawai Pharo, a minnau yn ddienwaededig o wefusau? 13 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharo brenin yr Aifft, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft.

14 Dyma eu pencenedl hwynt: meibion Reuben, y cyntaf‐anedig i Israel: Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben. 15 A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanëes: dyma deuluoedd Simeon.

16 Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ôl eu cenedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, a Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain. 17 Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ôl eu teuluoedd. 18 A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Ussiel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chan mlynedd. 19 Meibion Merari oedd Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ôl eu cenedlaethau. 20 Ac Amram a gymerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd.

21 A meibion Ishar; Cora, a Neffeg, a Sicri. 22 A meibion Ussiel; Misael, ac Elsaffan, a Sithri. 23 Ac Aaron a gymerodd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar. 24 Meibion Cora hefyd; Assir, ac Elcana, ac Abiasaff: dyma deuluoedd y Corahiaid. 25 Ac Eleasar, mab Aaron, a gymerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel; a hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd. 26 Dyma Aaron a Moses, y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd. 27 Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharo, brenin yr Aifft, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aifft: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.

28 A bu, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aifft, 29 Lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd: dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt. 30 A dywedodd Moses gerbron yr Arglwydd, Wele fi yn ddienwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharo arnaf?