Font Size
Readings for Celebrating Advent
Scripture passages that focus on the meaning of Advent and Christmas.
Duration: 35 days
Beibl William Morgan (BWM)
Malachi 3:1-3
3 Wele fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o’m blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i’w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y lluoedd. 2 Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion. 3 Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a’u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymu i’r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder.
Beibl William Morgan (BWM)
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.