Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 5:1-7

Canaf yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon: Ac efe a’i cloddiodd hi, ac a’i digaregodd, ac a’i plannodd o’r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion. Ac yr awr hon, preswylwyr Jerwsalem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a’m gwinllan. Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion? Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi; torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa; A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni. Diau, gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais; am gyfiawnder, ac wele lef.

Salmau 80:1-2

I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.

80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni.

Salmau 80:8-19

Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun. 16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt. 17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

Hebreaid 11:29-12:2

29 Trwy ffydd yr aethant trwy’r môr coch, megis ar hyd tir sych: yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid, boddi a wnaethant. 30 Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod. 31 Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda’r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi’r ysbïwyr yn heddychol. 32 A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Jefftha, am Dafydd hefyd, a Samuel, a’r proffwydi; 33 Y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gaeasant safnau llewod, 34 A ddiffoddasant angerdd y tân, a ddianghasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio. 35 Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad: ac eraill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell. 36 Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar: 37 Hwynt‐hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â’r cleddyf; a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr; 38 (Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt,) yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear. 39 A’r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid: 40 Gan fod Duw yn rhagweled rhyw beth gwell amdanom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.

12 Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni; Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.

Luc 12:49-56

49 Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes? 50 Eithr y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner! 51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i’w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael: 52 Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri. 53 Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a’r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.

54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae. 55 A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd. 56 O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a’r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.