Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm.
98 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth. 2 Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd. 3 Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni. 4 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch. 5 Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm. 6 Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin. 7 Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn. 8 Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd 9 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
10 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, 11 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gofyn yr awr hon i’r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd, 12 Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â’i gwr a gyffwrdd â’r bara, neu â’r cawl, neu â’r gwin, neu â’r olew, neu â dim o’r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant. 13 A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o’r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan. 14 Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr Arglwydd; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a’r hyn a aberthant yno, yn aflan. 15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o’r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd; 16 Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o’r cafn, ugain a fyddai yno. 17 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 18 Ystyriwch yr awr hon o’r dydd hwn ac er cynt, o’r pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, ac ystyriwch o’r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd. 19 A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a’r pomgranad, a’r pren olewydd, ni ffrwythasant: o’r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.
16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. 17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 18 A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd. 19 Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi: 20 Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. 21 Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.