Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 145:1-5

Salm Dafydd o foliant.

145 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd. Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd. Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy. Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid. Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf.

Salmau 145:17-21

17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd. 19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt. 20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe. 21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.

Sechareia 6:9-15

A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 10 Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia: 11 Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad; 12 A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gŵr a’i enw BLAGURYN: o’i le hefyd y blagura, ac efe a adeilada deml yr Arglwydd: 13 Ie, teml yr Arglwydd a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau. 14 A’r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr Arglwydd. 15 A’r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr Arglwydd, a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd Dduw.

Actau 24:10-23

10 A Phaul a atebodd, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i’r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun. 11 Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem. 12 Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i’r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas: 13 Ac ni allant brofi’r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o’u plegid. 14 Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a’r proffwydi: 15 A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae’r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i’r cyfiawnion ac i’r anghyfiawnion. 16 Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi‐rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol. 17 Ac ar ôl llawer o flynyddoedd, y deuthum i wneuthur elusennau i’m cenedl, ac offrymau. 18 Ar hynny rhai o’r Iddewon o Asia a’m cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg. 19 Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i’m herbyn. 20 Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor; 21 Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y’m bernir heddiw gennych. 22 Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a’u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i’r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl. 23 Ac efe a archodd i’r canwriad gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac na lesteiriai neb o’r eiddo ef i’w wasanaethu, nac i ddyfod ato.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.