Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 2

Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer? Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd, Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym. Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt. Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt. Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd. Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais. Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant. Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd. 10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg. 11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn. 12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.

Jeremeia 20

20 Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben‐llywodraethwr yn nhŷ yr Arglwydd, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn; Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a’i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd. A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar. Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef, Ni alwodd yr Arglwydd dy enw di Pasur, ond Magor-missabib. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i’r rhai oll a’th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a’u caethgluda hwynt i Babilon, ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf. Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a’i holl lafur, a phob dim a’r y sydd werthfawr ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion, y rhai a’u hanrheithiant hwynt, ac a’u cymerant, ac a’u dygant i Babilon. A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.

O Arglwydd, ti a’m hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar. Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr Arglwydd yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd. Yna y dywedais, Ni soniaf amdano ef, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.

10 Canys clywais ogan llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a’i mynegwn: pob dyn heddychol â mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddywedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a’i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno. 11 Ond yr Arglwydd oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth. 12 Ond tydi, Arglwydd y lluoedd, yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a’r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn. 13 Cenwch i’r Arglwydd, moliennwch yr Arglwydd: canys efe a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus.

14 Melltigedig fyddo y dydd y’m ganwyd arno: na fendiger y dydd y’m hesgorodd fy mam. 15 Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i’m tad, gan ddywedyd, Ganwyd i ti blentyn gwryw; gan ei lawenychu ef yn fawr. 16 A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ymchwelodd yr Arglwydd, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd: 17 Am na laddodd fi wrth ddyfod o’r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a’i chroth yn feichiog arnaf byth. 18 Paham y deuthum i allan o’r groth, i weled poen a gofid, fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth?

Luc 18:18-30

18 A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol? 19 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw. 20 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam. 21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid. 22 A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn. 24 A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! 25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26 A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? 27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw. 28 A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di. 29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, 30 A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.