Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
2 Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer? 2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd, 3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym. 4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt. 5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt. 6 Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd. 7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais. 8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant. 9 Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd. 10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg. 11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn. 12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.
12 Hwythau a ddywedasant, Nid oes obaith; ond ar ôl ein dychmygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob un amcan ei ddrwg galon ei hun. 13 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gofynnwch, atolwg, ymysg y cenhedloedd, pwy a glywodd y cyfryw bethau? Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn. 14 A wrthyd dyn eira Libanus, yr hwn sydd yn dyfod o graig y maes? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall? 15 Oherwydd i’m pobl fy anghofio i, hwy a arogldarthasant i wagedd, ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan o’r hen lwybrau, i gerdded llwybrau ffordd ddisathr; 16 I wneuthur eu tir yn anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob un a elo heibio iddo a synna, ac a ysgwyd ei ben. 17 Megis â gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd.
18 Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef â’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef. 19 Ystyria di wrthyf, O Arglwydd, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi. 20 A delir drwg dros dda? canys cloddiasant ffos i’m henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt, ac i droi dy ddig oddi wrthynt. 21 Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i’r newyn, a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf; a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a thrawer eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf yn y rhyfel. 22 Clywer eu gwaedd o’u tai, pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth; canys cloddiasant ffos i’m dal, a chuddiasant faglau i’m traed. 23 Tithau, O Arglwydd, a wyddost eu holl gyngor hwynt i’m herbyn i’m lladd i: na faddau eu hanwiredd, ac na ddilea eu pechodau o’th ŵydd; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint.
14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder: 15 Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae’n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd. 16 Ac yn ddi‐ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.
4 Ac y mae’r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid; 2 Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a’u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth; 3 Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i’w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd. 4 Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i’w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch. 5 Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.