Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.
81 Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob.
10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf. 11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai. 12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain. 13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd! 14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr. 15 Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd. 16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.
2 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, 2 Cerdda, a llefa yng nghlustiau Jerwsalem, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd. Cofiais di, caredigrwydd dy ieuenctid, a serch dy ddyweddi, pan y’m canlynaist yn y diffeithwch, mewn tir ni heuwyd. 3 Israel ydoedd sancteiddrwydd i’r Arglwydd, a blaenffrwyth ei gnwd ef: pawb oll a’r a’i bwytao, a bechant; drwg a ddigwydd iddynt, medd yr Arglwydd.
14 Ai gwas ydyw Israel? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe? paham yr ysbeiliwyd ef? 15 Y llewod ieuainc a ruasant arno, ac a leisiasant; a’i dir ef a osodasant yn anrhaith, a’i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd. 16 Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di. 17 Onid tydi a beraist hyn i ti dy hun, am wrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, pan ydoedd efe yn dy arwain ar hyd y ffordd? 18 A’r awr hon, beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yr Aifft, i yfed dwfr Nilus? a pheth sydd i ti yn ffordd Asyria, i yfed dwfr yr afon? 19 Dy ddrygioni dy hun a’th gosba di, a’th wrthdro a’th gerydda: gwybydd dithau a gwêl, mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, ac nad ydyw fy ofn i ynot ti, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
20 Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog. 21 Eto myfi a’th blanaswn yn bêr winwydden, o’r iawn had oll: pa fodd gan hynny y’th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr? 22 Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr, a chymryd i ti lawer o sebon; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Arglwydd Dduw.
20 Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo. 21 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’m cwpan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad. 24 A phan glybu’r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr. 25 A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy. 26 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi; 27 A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi: 28 Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.