Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 10

10 Paham, Arglwydd, y sefi o bell? yr ymguddi yn amser cyfyngder? Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant. Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio. Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef. Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion. Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd. Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd. Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd. 10 Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef. 11 Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth. 12 Cyfod, Arglwydd; O Dduw, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol. 13 Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni. 14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad. 15 Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim. 16 Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef. 17 Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion: paratôi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt; 18 I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.

Jeremeia 7:16-26

16 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt, ac nac eiriol arnaf: canys ni’th wrandawaf.

17 Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem? 18 Y plant sydd yn casglu cynnud, a’r tadau yn cynnau tân, a’r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau i frenhines y nef, ac i dywallt diod‐offrymau i dduwiau dieithr, i’m digio i. 19 Ai fi y maent hwy yn ei ddigio? medd yr Arglwydd: ai hwynt eu hun, er cywilydd i’w hwynebau eu hun? 20 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir.

21 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig. 22 Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchmynnais iddynt, y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft, am boethoffrymau neu aberthau: 23 Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a mi a fyddaf Dduw i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minnau; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi. 24 Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ymlaen. 25 O’r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi, bob dydd gan foregodi, ac anfon: 26 Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu clust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau.

Datguddiad 3:7-13

Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd; Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennyt ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw. Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent; wele, meddaf, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di. 10 O achos cadw ohonot air fy amynedd i, minnau a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear. 11 Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di. 12 Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a’i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: ac mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Jerwsalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw i: ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i. 13 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.